Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae'r data'n cwmpasu presgripsiynau a ragnodir yn Lloegr ac sydd wedyn yn cael eu dosbarthu yn y gymuned yng Nghymru. Mae’r data yn cynnwys yr holl feddyginiaethau, gorchuddion a dyfeisiau a bresgripsiynir bob mis. Os na fydd claf yn mynd â phresgripsiwn i’r fferyllfa, ni fydd yr wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y set ddata.
Nid yw’r data yn cynnwys presgripsiynau preifat.
Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis a bydd ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol gyflawn.
Mae angen dehongli data presgripsiynu yn ofalus iawn ac ni ddylid eu defnyddio ar wahân.