Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Detholiad Data Dosbarthu Practis Meddygon Teulu

Mae data dosbarthu yn ôl practis Meddygon Teulu ar gael ar lefel ymgyflwyno. Caiff yr wybodaeth ei chasglu o’n systemau gwybodaeth yn ymwneud â phresgripsiynu a rhoi presgripsiynau.

Mae’r data yn cynnwys presgripsiynau sy’n cael eu rhagnodi gan Fedddygon Teulu (ymarferwyr meddygol cyffredinol) a phresgripsiynwyr anfeddygol sydd wedi rhagnodi ar ran y practis Meddyg Teulu, sydd wedyn yn cael eu darparu yn y gymuned yng Nghymru neu yn Lloegr. Mae’r data yn cynnwys yr holl feddyginiaethau, gorchuddion a dyfeisiau a bresgripsiynir bob mis. Os na fydd claf yn mynd â phresgripsiwn i’r fferyllfa, ni fydd yr wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y set ddata.

Nid yw’r data yn cynnwys presgripsiynau preifat.

Bydd data yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis a bydd ar gael am y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol gyflawn.

Mae angen dehongli data presgripsiynu yn ofalus iawn ac ni ddylid eu defnyddio ar wahân.