Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r Tîm

Rebecca Jarvis

Pennaeth y Gweithlu Digidol

Rebecca.Jarvis@wales.nhs.uk

Ymunodd Becky â thîm y Gweithlu Digidol ym mis Ebrill 2016 ar ôl 27 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i ragflaenwyr fel eu Pennaeth Gwybodaeth am y Gweithlu.  Mae Becky yn gyfrifol am reoli tîm y Gweithlu Digidol yn ogystal ag arwain a chefnogi Rhaglen Waith y Gweithlu Digidol i wneud y mwyaf o atebion digidol.

James

James Webber

Rheolwr Prosiect y Gweithlu ar gyfer Cymru Gyfan

James.D.Webber@wales.nhs.uk

Ymunodd James ag isadran Gweithlu Digidol PCGC ym mis Tachwedd 2021 ar ôl gweithio i’r tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol y sefydliad rhwng 2015 a 2017. Cyn hyn bu’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gwybodaeth am y gweithlu o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae James yn angerddol am rôl atebion digidol wrth sicrhau gwell effeithlonrwydd gweithlu a thrawsnewid prosesau Adnoddau Dynol trafodol. Cymerodd gyfrifoldeb rheoli am eAteb yn 2022.

Cath Walters

Rheolwr prosiectau'r Gweithlu Digidol

Cath.Walters2@wales.nhs.uk

Ymunodd Cath â Thîm y Gweithlu Digidol ym mis Mai 2019 i gynorthwyo gyda phrosiectau, ond o fis Hydref 2020 mae hi wedi bod yn rheoli tîm Cymorth ESR Cymru. Swydd fwyaf diweddar Cath cyn iddi ymuno â PCGC oedd Hyfforddwr ESR gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lle bu’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi am 35 mlynedd.

Jamie Preece

Arweinydd Tîm Cymorth ESR Cymru

Jamie.Preece@wales.nhs.uk

Ymunodd Jamie â’r Tîm Gweithlu Digidol ym mis Tachwedd 2019 fel Swyddog Cymorth ar y ddesg gymorth. Mae bellach wedi ymgymryd â swydd newydd fel Arweinydd Tîm ac mae’n goruchwylio’r tîm Cymorth ESR.

Digital Workforce Support Officers
Robin Robin Bevan

Ymunodd Robin â thîm Cymorth ESR Cymru i ddechrau fel aelod Banc ym mis Ebrill 2022, cyn iddo gael swydd barhaol ym mis Mehefin 2022. Dyma ei swydd gyntaf o fewn y GIG.

Mike Michael James

Ymunodd Mike â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2021. Dyma ei swydd gyntaf yn y GIG.

Simon Simon Davies

Ymunodd Simon â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Ionawr 2021 cyn gweithio am gyfnod byr ym maes caffael. Ail-ymunodd â’n tîm ym mis Ionawr 2022. 

Sue Susan Davies

Ymunodd Sue â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2021. Dyma ei swydd gyntaf yn y GIG.

Catrin Catrin Isaac

Ymunodd Catrin â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Cyn hynny bu’n gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru.

Clare Clare Instrell

Ymunodd Clare â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2022. Cyn hynny bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda’i gyrfa yno yn ymestyn dros 10 mlynedd.

Alyson Alyson Jones

Mae Alyson wedi ymuno â Chymorth ESR Cymru yn ddiweddar ym mis Rhagfyr 2022. Mae hi wedi cael gyrfa eang yn y GIG gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac mae newydd gael gwobr gwasanaeth hir am 25 mlynedd o wasanaeth.

Kayleigh Kayleigh Davies

Ymunodd Kayleigh â thîm Cymorth ESR Cymru ym mis Awst 2022. Cyn ymuno â’r tîm bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.