Isod mae enghraifft o'r cyrsiau sydd ar gael i Sector Cyhoeddus Cymru eu cyrchu. Os hoffech fynediad, cliciwch yma.
Cwrs: | Disgrifiad: |
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
Mae e-Ddysgu Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ateb tri chwestiwn sylfaenol y dylai pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru allu ei ateb; beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? Sut olwg sydd arno a beth ellir ei wneud i helpu rhywun sy'n profi'r mathau hyn o gam-drin? |
Ymwybyddiaeth Gofalwyr |
Mae dros 370,000 o ofalwyr yng Nghymru a bydd 3 o bob 5 o bobl yn gofalu am rywun ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, felly gofalwyr sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r gefnogaeth a roddir i bobl yn ein cymdeithas. Bob blwyddyn, bydd 120,000 o bobl yn dechrau gofalu am rywun a bydd rhai rolau gofalu yn dod i ben; felly mae'n hanfodol bod gofalwyr yn cael eu hadnabod mor gynnar â phosibl fel eu bod yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, help a chefnogaeth. Bydd gwneud hynny yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau a'r rôl bwysig y maent yn ei chyflawni. Yn hynny o beth, mae Gofal Cymdeithasol Cymru a GIG Cymru wedi cyd-ddatblygu Cwrs E-Ddysgu ynghylch Ymwybyddiaeth o Ofalwyr gyda'r nod o helpu i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ofalwyr. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr archwilio rhai pynciau allweddol gan gynnwys:
|
Offeryn Asesu Risg Covid-19 |
|
Brechu Covid-19 |
Mae adnoddau hyfforddi ar gael y gellir cael mynediad atyn nhw nawr i wella’ch gwybodaeth am egwyddorion brechu ac imiwneiddio craidd. Mae Public Health England yn arwain datblygu deunyddiau hyfforddi ar imiwneiddio rhag COVID-19. Bydd y rhain yn cynnwys modiwl e-Ddysgu ynghylch COVID-19, gydag adran gwybodaeth graidd ac adrannau penodol i frechlynnau, set o sleidiau hyfforddi cynhwysfawr a fframwaith cymhwysedd clinigol. |
I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau eraill sydd ar gael gennym, cysylltwch â ni trwy ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.