Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Dysgu Digidol Cymru

Rhanddeiliaid / Llywodraethu


Mae tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yn newid. Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, mae cyllidebau’n is ac mae gwahanol fodelau o wasanaethau cyhoeddus wedi cael eu cyflwyno sy’n gofyn am rolau, sgiliau a gwybodaeth wahanol neu newydd i sicrhau gwasanaethau diogel ac effeithlon i ddinasyddion. Mae defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus diogel, darbodus ac o ansawdd uchel, yn hanfodol.

Mae Learning@Wales yn blatfform Dysgu Digidol Cymru Gyfan sy’n gweithredu fel storfa ar gyfer deunyddiau e-ddysgu ac asesiadau cymhwysedd. Mae nifer sylweddol o raglenni e-ddysgu i’w gweld ar y gwasanaethau, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi gorfodol a statudol cenedlaethol, yn ogystal â chyrsiau datblygu proffesiynol (clinigol ac anghlinigol).

Mae’r dull arloesol hwn o ddysgu digidol yn sicrhau mwy o werth o adnoddau presennol, a bydd yn helpu i ailosod ffocws gwasanaethau cyhoeddus i’r hyn sydd bwysicaf, sef parhau i ddarparu gofal i bawb yn unol â’i anghenion clinigol.

Bydd Bwrdd Rheoli Gwasanaeth yn darparu fforwm i adolygu, cynllunio a datblygu datrysiadau e-ddysgu lleol a chenedlaethol (technolegol a phroses) sy’n effeithio ar y gymuned ddysgu sy’n dilyn y cyrsiau hyn.