Neidio i'r prif gynnwy

Covid-19

Covid-19 Graphic

Mae tîm Dysgu Digidol Cymru wedi casglu nifer o adnoddau i gefnogi sefydliadau ar blatfform Learning@Wales. Mae gennym sawl cwrs ar gael ar gyfer y sefydliadau canlynol:

  • Holl Awdurdodau Lleol Cymru
  • GIG Cymru
  • Gwirfoddolwyr
  • Prifysgolion
  • Elusennau
  • Practisiau Meddygon Teulu
  • Deintyddol
  • Cartrefi Nyrsio/Preswyl/Gofal

Mae ystod eang o gyrsiau am ddim ar gael i gefnogi staff, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. 

 

Cyrsiau Clinigol

  • Siart Cofnodi Hylif 
  • Techneg Aseptig Di-gyffwrdd (ANTT) 
  • Meddyginiaeth 
  • Tiwbiau Nasogastrig
  • Arsylwadau Cleifion
  • Arsylwadau Sylfaenol
  • Gofal y Llwybr Anadlu
  • Digwyddiadau Critigol wrth Ddadebru
  • Gofal Traceostomi
  • Sugno
  • Gwirio Marwolaeth

 

Cwrs Sefydlu

  • Diogelwch Tân
  • Iechyd a Diogelwch
  • Atal a Rheoli Heintiau – Lefel 2
  • Diogelu Oedolion – Lefel 2
  • Diogelu Plant – Lefel 2
  • Diogelwch Bwyd 
  • Codi a Chario
  • Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2020
  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd – Cod Ymddygiad
  • Ymwybyddiaeth Dementia​

Mae dros 350 o gyrsiau ar gael. Os ydych chi'n chwilio am gwrs penodol ac angen cymorth - cysylltwch â ni try ein tudalen Help a Chymorth.

Os ydych yn wirfoddolwr yn y GIG ac mae angen mynediad at Learning@Wales arnoch, cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd rydych yn gwirfoddoli ag ef a bydd yn gwneud cais am fanylion cyfrif ar eich cyfer.

 

Cartrefi Nyrsio

Os ydych chi'n gweithio i Gartref Nyrsio, cwblhewch y ffurflen Cais ar gyfer Cyfrif e-Ddysgu Newydd.

 

Gweithiwr Dros Dro

Os ydych yn weithiwr dros dro yn y GIG, caiff manylion mewngofnodi eu hanfon atoch.

Os nad yw’r uchod yn berthnasol i chi, cwblhewch y ffurflen Cais ar gyfer Cyfrif e-Ddysgu Newydd.