Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau

Isod mae enghraifft o'r cyrsiau sydd ar gael i Sector Cyhoeddus Cymru eu cyrchu. Os hoffech fynediad, cliciwch yma.

Cwrs: Disgrifiad:
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae e-Ddysgu Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ateb tri chwestiwn sylfaenol y dylai pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru allu ei ateb; beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? Sut olwg sydd arno a beth ellir ei wneud i helpu rhywun sy'n profi'r mathau hyn o gam-drin?

Ymwybyddiaeth Gofalwyr

Mae dros 370,000 o ofalwyr yng Nghymru a bydd 3 o bob 5 o bobl yn gofalu am rywun ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, felly gofalwyr sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r gefnogaeth a roddir i bobl yn ein cymdeithas.

Bob blwyddyn, bydd 120,000 o bobl yn dechrau gofalu am rywun a bydd rhai rolau gofalu yn dod i ben; felly mae'n hanfodol bod gofalwyr yn cael eu hadnabod mor gynnar â phosibl fel eu bod yn gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, help a chefnogaeth. Bydd gwneud hynny yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau a'r rôl bwysig y maent yn ei chyflawni.

Yn hynny o beth, mae Gofal Cymdeithasol Cymru a GIG Cymru wedi cyd-ddatblygu Cwrs E-Ddysgu ynghylch Ymwybyddiaeth o Ofalwyr gyda'r nod o helpu i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ofalwyr. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr archwilio rhai pynciau allweddol gan gynnwys:

  • pwy sy'n ofalwr;
  • y mathau o gymorth y mae gofalwyr yn eu darparu;
  • yr effaith y gall rôl ofalu ei chael;
  • yr hyn sydd ei angen ar ofalwyr
  • hawliau gofalwyr, y gyfraith a ble i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael iddynt
Offeryn Asesu Risg Covid-19
  • Gwiriwch a ydych mewn mwy o berygl o gael symptomau mwy difrifol os byddwch chi’n dod i gysylltiad â COVID-19. Mae'r adnodd hwn yn eich helpu i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac mae’n awgrymu sut y gallwch chi gadw'n ddiogel. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi'i addasu i'w ddefnyddio mewn addysg ond gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle.
  • Rydyn ni am eich helpu chi i ddeall a allech chi fod yn wynebu risg uwch ac i'ch helpu chi a'ch rheolwr llinell i ddewis y camau cywir i chi ar sail lefel eich risg.
  • Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gofal i ddiogelu eich iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith ac mae hyn yn cynnwys deall a ydych chi’n wynebu risg uwch o COVID-19. Mae'r ddyletswydd gofal hon yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn deg, waeth beth fo’u hethnigrwydd neu nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Mae'r dudalen nesaf yn rhoi trosolwg o'r broses asesu risg. Mae ganddi ddolenni at y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf am y pethau sylfaenol y gall pawb eu gwneud i leihau eu risg o ddal haint COVID-19, yn ogystal â'r pethau y mae'n rhaid i gyflogwyr eu gwneud i gefnogi pobl sy'n gweithio iddynt.
Brechu Covid-19

Mae adnoddau hyfforddi ar gael y gellir cael mynediad atyn nhw nawr i wella’ch gwybodaeth am egwyddorion brechu ac imiwneiddio craidd.

Mae Public Health England yn arwain datblygu deunyddiau hyfforddi ar imiwneiddio rhag COVID-19. Bydd y rhain yn cynnwys modiwl e-Ddysgu ynghylch COVID-19, gydag adran gwybodaeth graidd ac adrannau penodol i frechlynnau, set o sleidiau hyfforddi cynhwysfawr a fframwaith cymhwysedd clinigol.

I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau eraill sydd ar gael gennym, cysylltwch â ni trwy ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.