Neidio i'r prif gynnwy

eAteb

 Nid yw ein gwasanaeth Sgwrs Fyw ar gael ar hyn o bryd, oherwydd gwaith cynnal a chadw - rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

O ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 ein horiau agor newydd a’n manylion cyswllt fydd:

  • ​​​​​​Dydd Llun - Dydd Gwener 08:30 - 16:30

Byddwn ar gau am gyfnod byr bob dydd Mercher rhwng 12.00 a 14.00pm ar gyfer hyfforddiant hanfodol i staff.

  • Ein rhif ffôn newydd yw: 02921 500300
  • Ein cyfeiriad e-bost newydd yw eAteb@wales.nhs.uk

Gellir cael mynediad at ein gwasanaeth sgwrs fyw newydd trwy’r ddolen sgwrsio ar wefan PCGC.

Bydd pob rhif ffôn a chyfeiriad e-bost blaenorol yn ailgyfeirio'n awtomatig i'r pwyntiau cyswllt newydd am gyfnod cyfyngedig yn unig.

 

Beth yw eAteb?

Ar hyn o bryd mae is-adran Gweithlu Digidol PCGC yn lletya dwy ganolfan gyswllt bwrpasol sy’n rhoi cymorth digidol i systemau pobl. Y rhain yw Cymorth ESR Cymru (ar gyfer staff GIG Cymru) a Dysgu Digidol Cymru (ar gyfer ymholiadau ehangach yn y Sector Cyhoeddus trwy Learning@Wales)

O ddydd Llun 2023 Gorffennaf 2023, bydd y canolfannau cyswllt yn uno yn un pwynt cyswllt penodol ar gyfer Cymorth Digidol i Systemau Pobl. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ailfrandio fel eAteb, Cymorth Digidol i Systemau Pobl yng Nghymru

Bydd eAteb yn parhau i roi cymorth i staff ledled Cymru gydag ymholiadau ESR a Learning@Wales.

 

Beth yw ESR?

Mae Electronic Staff Record (ESR) y GIG yn darparu system adnoddau dynol a chyflogres integredig i sefydliadau’r GIG. Mae 99 y cant o sefydliadau’r GIG yng Nghymru a Lloegr yn ei ddefnyddio ac mae’n cadw data tua 1.4 miliwn o staff (sef tua chwech y cant o boblogaeth y DU sy’n gweithio).

Mae cynllunio’r gweithlu yn effeithiol yn hanfodol er mwyn galluogi’r GIG i gyflenwi'r staff sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal iechyd newidiol y boblogaeth.  Mae potensial ESR i gefnogi cynllunio’r gweithlu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn enfawr.

Mae gan bob gweithiwr y GIG fynediad i'w ESR, er mwyn iddo reoli ei wybodaeth bersonol. Mae’r staff yn gallu diwygio gwybodaeth fel eu cyfeiriadau neu fanylion banc, gallant archebu gwyliau blynyddol a monitro eu hawl i wyliau blynyddol. Mae ESR hefyd yn cadw eu cofnodion hyfforddi sy'n eu galluogi i fynd â nhw gyda nhw o un sefydliad i'r llall. 

 

Beth yw Learning@Wales?

System Rheoli Dysgu Cymru gyfan yw Learning@Wales, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sef ystorfa ar gyfer deunyddiau e-ddysgu, adnoddau ac asesiadau cymhwysedd. Mae nifer sylweddol o raglenni e-ddysgu ar gael, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi gorfodol a statudol cenedlaethol, yn ogystal â chyrsiau datblygu proffesiynol a phersonol (clinigol ac anghlinigol).

Mae’r dull arloesol hwn o ddysgu digidol yn sicrhau mwy o werth o adnoddau presennol, a bydd yn helpu i ailosod ffocws gwasanaethau cyhoeddus i’r hyn sydd bwysicaf, sef parhau i ddarparu gofal i bawb yn unol â’i anghenion clinigol.

Mae'r sefydliadau a gefnogir gan Cymorth ESR Cymru fel a ganlyn:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Ymddiriedolaeth Y GIG

Sylwch: Nid ydym yn darparu cefnogaeth i weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gall gweithwyr Aneurin Bevan gysylltu a'u tim cymorth lleol ar 01633 623455.

Nid ydym yn rhoi unrhyw gefnogaeth i weithwyr NHS England chwaith.