Gwasanaeth ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw tîm Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru. Bydd Pennaeth y Gwasanaeth Atal Twyll yn rhoi gwybod i Gyfarwyddwr Cyllid Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am faterion cyllideb a pherfformiad a bydd yn rhoi gwybod i Awdurdod Atal Twyll y GIG am faterion rheoli gweithredol a phroffesiynol.
Mae gwaith y Gwasanaeth Atal Twyll yn cwmpasu tri phrif amcan:
Ystyrir yr ystod lawn o sancsiynau disgyblu, sifil neu droseddol ym mhob achos addas.
Caiff achosion troseddol posibl eu hadolygu’n annibynnol gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru
Mae tîm Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn cynnwys ymchwilwyr profiadol, ac mae cylch gwaith y tîm y cynnwys:
Mae Arbenigwyr Atal Twyll Lleol yn derbyn hyfforddiant gan Awdurdod Atal Twyll y GIG ac mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys ymchwilio i achosion o dwyll yn eu corff iechyd eu hunain, gan nodi gwendidau mewn systemau a chodi ymwybyddiaeth staff o risgiau posibl i dwyll, yn ogystal â rhoi gwybod am weithdrefnau drwy roi cyflwyniadau mewn sesiynau ymsefydlu staff a digwyddiadau hyfforddi.
Mae’r Cyfarwyddiadau i gyrff y GIG ar Fesurau Gwrth-dwyll 2005 (diwygiedig) gan Lywodraeth Cymru yn darparu fframwaith i sicrhau bod pob corff yn y GIG, Awdurdod Atal Twyll y GIG a Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn mabwysiadu dull cyson, proffesiynol ac effeithiol o atal twyll.
Roedd yr adenillion gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru a’r rhwydwaith o Arbenigwyr Atal Twyll Lleol, o’r adeg y daethant yn weithredol ym mis Awst 2001, yn gyfystyr â £8,921,121 ar 31 Mawrth 2020. Yn ystod yr un cyfnod, cyflawnwyd 212 o sancsiynau troseddol, 460 o adenillion sifil a 419 o sancsiynau disgyblu.
Twyll yn y GIG.
Sylwch arno. Rhowch wybod amdano.
Gyda’n gilydd, gallwn ei atal.