Neidio i'r prif gynnwy

Am dan Gwasanaethau Gwrth Dwyll Cymru

Gwasanaeth ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw tîm Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru. Bydd Pennaeth y Gwasanaeth Atal Twyll yn rhoi gwybod i Gyfarwyddwr Cyllid Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am faterion cyllideb a pherfformiad a bydd yn rhoi gwybod i Awdurdod Atal Twyll y GIG am faterion rheoli gweithredol a phroffesiynol.

Amcanion


Mae gwaith y Gwasanaeth Atal Twyll yn cwmpasu tri phrif amcan:

  • Addysgu’r rhai sy’n gweithio i’r GIG neu sy’n defnyddio’r GIG am drosedd economaidd oddi mewn iddo a sut i fynd i’r afael ag ef
  • Atal a rhwystro trosedd economaidd yn y GIG drwy ddileu cyfleoedd iddo ddigwydd neu ddigwydd am yr ail dro
  • Dwyn y rhai sydd wedi cyflawni trosedd economaidd yn erbyn y GIG i gyfrif, gan ganfod troseddwyr, ymchwilio iddynt a’u herlyn, a cheisio iawn lle bo hynny’n bosibl.

Ystyrir yr ystod lawn o sancsiynau disgyblu, sifil neu droseddol ym mhob achos addas.

Caiff achosion troseddol posibl eu hadolygu’n annibynnol gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

pdf icon
 

Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru

 


 

Mae tîm Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn cynnwys ymchwilwyr profiadol, ac mae cylch gwaith y tîm y cynnwys:

  • Ymchwilio i achosion o dwyll a llwgrwobrwyo cymhleth a sensitif ar raddfa fawr, a’u herlyn, yn ogystal â’r holl achosion llygredd yn GIG Cymru (gallwch ddarllen ychydig o achosion enghreifftiol isod)
  • Codi ymwybyddiaeth o risgiau twyll yn GIG Cymru ar hyn o bryd drwy amlygu erlyniadau llwyddiannus, cylchredeg bwletinau gwybodaeth, cyflawni gwaith rhagweithiol a chyflwyniadau yn GIG Cymru a chydweithio’n rheolaidd â phartneriaid allweddol
  • Cynnal ymchwiliadau ariannol a chamau atal o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002
  • Rhoi cymorth ac arweiniad arbenigol i rwydwaith o Arbenigwyr Atal Twyll Lleol a gyflogir gan gyrff iechyd yng Nghymru, ac adrodd i’w Cyfarwyddwyr Cyllid unigol

Mae Arbenigwyr Atal Twyll Lleol yn derbyn hyfforddiant gan Awdurdod Atal Twyll y GIG ac mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys ymchwilio i achosion o dwyll yn eu corff iechyd eu hunain, gan nodi gwendidau mewn systemau a chodi ymwybyddiaeth staff o risgiau posibl i dwyll, yn ogystal â rhoi gwybod am weithdrefnau drwy roi cyflwyniadau mewn sesiynau ymsefydlu staff a digwyddiadau hyfforddi.

Mae’r Cyfarwyddiadau i gyrff y GIG ar Fesurau Gwrth-dwyll 2005 (diwygiedig) gan Lywodraeth Cymru yn darparu fframwaith i sicrhau bod pob corff yn y GIG, Awdurdod Atal Twyll y GIG a Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn mabwysiadu dull cyson, proffesiynol ac effeithiol o atal twyll.

Roedd yr adenillion gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru a’r rhwydwaith o Arbenigwyr Atal Twyll Lleol, o’r adeg y daethant yn weithredol ym mis Awst 2001, yn gyfystyr â £8,921,121 ar 31 Mawrth 2020. Yn ystod yr un cyfnod, cyflawnwyd 212 o sancsiynau troseddol, 460 o adenillion sifil a 419 o sancsiynau disgyblu.

 

Twyll yn eich gweithle?

Twyll yn y GIG.
Sylwch arno. Rhowch wybod amdano.
Gyda’n gilydd, gallwn ei atal.

Ffoniwch

0800 028 4060

 

NHS Fraud Graphic