Neidio i'r prif gynnwy

Sut yr ydym yn cefnogi GIG Cymru

Fan y Gwasanaeth Negesydd Iechyd yn y maes parcio

Rydym ni’n cludo samplau, gwaed a chynhyrchion gwaed ar gyfer patholeg, gwaed cyflawn, platennau a meddyginiaethau hanfodol ynghyd ag ystod eang o eitemau nad ydynt i gleifion o dan amodau rheolaidd, brys/golau glas ac argyfwng.

Gan ddilyn amserlen a drefnir ymlaen llaw, rydym ni’n dosbarthu ac yn casglu post mewnol ac allanol, ac yn cyfnewid post mewn ystafelloedd post canolog, ynghyd â rheoli’r gwaith o gludo Cofnodion Meddygol a dosbarthu golch ar gyfer y GIG.

Rydym ni’n gweithio fel partner GIG gyda’r canlynol:

  • Pob Bwrdd Iechyd GIG Cymru
  • Ymddiriedolaeth y GIG Felindre
  • Gwasanaeth Gwaed Cymru
  • Y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr (Y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys)
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans GIG Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Eicon olwynion GIG Cymru

 

Ein Cenhadaeth

Ein nod yw darparu gwasanaeth logisteg o safon ryngwladol i GIG Cymru sy’n cynnwys Gwasanaethau Patholeg, Gwasanaethau Gwaed, Post Mewnol, Cofnodion Meddygol a Chyflenwadau Ysbyty, ac sydd â threfniadau llywodraethu, olrhain ac adrodd rhagorol.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw y bydd y Gwasanaeth Cludo yn frand unigryw sy’n cael ei barchu ac a fydd wedi cynnwys o’i fewn sawl gwasanaeth y cânt eu rheoli ar hyn o bryd gan y Byrddau Iechyd, a hynny er mwyn creu model cyflenwi sengl â’r nod o greu synergeddau, dileu amrywiadau a lleihau risgiau a niwed.

 

Taflenni


pdf icon
 

Taflen Gwasanaeth Negesydd Iechyd - Caerdydd a'r Fro (PDF,295kb)

 

pdf icon

 

Taflen Gwastraff Clinigol - Cwm Taf (PDF,224kb)