Neidio i'r prif gynnwy

Newid i Gronfa Ddata ESR PCGC: Newid mewnol - at sylw pob aelod o staff

 

Ar 6 Mehefin 2021, bydd PCGC yn cynnal ymarfer i drosglwyddo'r holl weithwyr o gronfa ddata ESR 120 (Felindre) i'w chronfa ddata ESR 043 ei hun.

Mae angen gwneud y newid hwn oherwydd bod gweithlu PCGC wedi ehangu’n ddiweddar i gynnwys Cyflogwr Arweiniol Sengl Meddygon Iau (SLE), y Bartneriaeth Banc Cydweithredol (CBP), y Gwasanaeth Archwilio Meddygol a'r Gwasanaethau Golchdy; a hefyd i sicrhau bod adrannau yn PCGC yn gallu rheoli staff a phrosesau yn effeithlon trwy un gronfa ddata ESR.

Os oes gennych enw defnyddiwr ESR sy’n dechrau gyda 120, bydd eich cofnod cyflogaeth yn cael ei symud dros nos ar 6 Mehefin i gronfa ddata newydd ESR 043. Nid yw'r trosglwyddiad yn effeithio ar eich contract cyflogaeth, na thelerau ac amodau eich cyflogaeth.

Ein bwriad trwy gydol y broses yw esbonio'r newid yn glir. Yn ystod sgyrsiau â thimau rheoli, mae’n bosibl y cyfeirir at y gwaith hwn fel ‘MOCP’ (proses newid sefydliadol torfol) a gellir defnyddio’r term technegol ‘VPD’ (cronfa ddata breifat rithwir) ar gyfer y gronfa ddata hefyd.

Byddwn yn cyfathrebu â staff i sicrhau bod ein cydweithwyr i gyd yn cael eu briffio'n llawn trwy gydol y broses newid. Mae gennym gynllun cyfathrebu cadarn a byddwn yn cyfathrebu trwy’r canlynol:

  • Tudalennau gwe pwrpasol (rhyngrwyd a mewnrwyd)
  • E-bost (Cyfathrebiadau’r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol)
  • Cylchlythyrau PCGC / diweddariadau ochr staff / cylchlythyr yr Undeb
  • Cofnod Staff Electronig (ESR); Slipiau cyflog; sesiynau briffio staff wythnosol
  • Trwy'r porth Treuliau
  • Diweddariadau i reolwyr eu dosbarthu trwy Microsoft Teams a;
  • Boreau Coffi Rhithwir.

Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin isod a fydd yn eich tywys trwy'r broses.

Mae swyddogaeth Holi ac Ateb wedi'i chymedroli hefyd ar gael fel y gall pob aelod o staff ofyn cwestiynau a derbyn atebion gan yr isadrannau perthnasol yn PCGC. Yna bydd y Cwestiynau Cyffredin yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: shared.services@wales.nhs.uk

Cwestiynau Cyffredin

 

pdf icon

 

ESR PCGC Newid cronfa ddata: Newid mewnol

Rhannu: