Neidio i'r prif gynnwy

Symptomau

 

Os ydych chi’n credu bod gennych chi neu rywun rydych chi’n nabod symptomau, ewch i holiadur symptomau GIG 111 Cymru trwy ymweld ag https://111.wales.nhs.uk/SelfAssessments/symptomcheckers/COVID19.aspx?locale=cy

 

Gall datblygu un neu fwy o’r symptomau canlynol awgrymu bod Coronafeirws gennych chi.

  • Peswch parhaus
  • Tymheredd uchel
  • Colli’r gallu i arogli neu flasu (anosmia)

 

Beth yw peswch newydd parhaus?

Mae'r GIG yn diffinio peswch newydd parhaus fel:

  • Peswch sy'n newydd i chi neu'n wahanol i'ch peswch arferol
  • Peswch sy'n golygu eich bod chi'n pesychu am lawer hirach nag awr, neu'n cael tri phwl o beswch neu fwy mewn 24 awr
  • Os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth na'r arfer.

 

Beth yw tymheredd uchel?

Bydd tymheredd uchel yn mesur uwchlaw 37.8°C (100°F) ar thermomedr a byddwch yn teimlo'n boeth wrth gyffwrdd â’r frest neu'r cefn.

 

Beth yw anosmia?

Colled neu newid yn eich synnwyr arogli. Gall effeithio ar eich blasu hefyd gan fod cysylltiad agos rhwng y rhain.

 

Mae effaith COVID-19 yn amrywio o berson i berson. Mae'n arferol iawn i'ch corff a'ch meddwl gymryd peth amser i wella. Dyma ychydig o gyngor.

Symud

Fel gyda llawer o afiechydon, mae pobl yn tueddu i orffwys neu aros yn y gwely am gyfnodau hirach. Gall hyn arwain at golli cyhyrau a theimlo'n fwy blinedig na'r arfer. Mae'n bwysig dechrau gwneud ymarfer corff cyn gynted â phosibl i adfer eich cyhyrau.

Wrth i chi ddechrau gwella, mae symud yn rheolaidd yn allweddol, ychydig ac yn aml sydd orau. Dechreuwch ailddechrau’ch gweithgareddau dyddiol arferol. Dylech gerdded ymhellach yn raddol wrth i chi gryfhau.

Diffyg Anadl

Mae diffyg anadl yn ymateb arferol i fod yn egnïol, ond mae hefyd yn normal ei brofi wrth wneud tasgau symlach ar ôl cael haint ar yr ysgyfaint. Mae'n bwysig peidio ag osgoi gweithgareddau sy'n eich gwneud yn fyr eich anadl, ond dylech reoli’ch gweithgareddau yn ddibynnol ar ba mor fyr eich anadl rydych chi'n teimlo.

Blinder ac egni

Efallai na fydd gennych gymaint o egni ar ôl bod yn sâl ac efallai y byddwch yn blino'n gyflym iawn. Mae hyn yn normal. Gadewch amser i'ch hun ac i'ch corff wella.

Mae gwella’n gydbwysedd rhwng gorffwys a gweithgarwch. Os oes gennych drefn ddyddiol nad yw bellach yn bosibl, crëwch un newydd am y tro a'i dilyn. Newidiwch hi’n ôl i'ch trefn arferol yn araf pan allwch chi. Peidiwch â rhuthro.

Bwyta ac yfed

Mae maeth a hydradiad da yn bwysig iawn i helpu i gefnogi'ch corff pan fyddwch chi'n sâl, yn ogystal â'ch cefnogi chi i wella.

Os ydych chi'n cael trafferth bwyta digon, neu os ydych chi'n colli pwysau neu gryfder yn eich cyhyrau, efallai y bydd angen i chi ailystyried y bwydydd rydych chi'n eu bwyta.

Yfwch lymeidiau bach, aml, o hylifau bob ychydig funudau, os na allwch yfed llawer iawn ar yr un pryd.

Sicrhewch eich bod yn cael digon o fitaminau a mwynau; mae'r rhain yn cefnogi'r system imiwnedd. Ceisiwch gynnwys 5 dogn gwahanol o ffrwythau a llysiau yn eich diet bob dydd ac ystyriwch gymryd atchwanegiadau. Mae mynd y tu allan a chael fitamin D hefyd yn dda, os yn bosibl.

Cwsg

Mae'n bwysig iawn cael cwsg rheolaidd er mwyn cadw'ch corff a'ch meddwl yn iach. Ceisiwch fynd i'r gwely a deffro ar yr un amser bob dydd.

Os yw’n bosibl, ceisiwch godi a threulio amser mewn ystafell arall pan nad ydych chi'n cysgu.

Osgowch edrych ar sgriniau fel eich ffôn neu deledu am awr cyn mynd i'r gwely. Rhowch gynnig ar ddarllen neu wrando ar y radio.

Rhannu: