Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gyfrifol am yr holl bwerau yn ei phortffolio, ac yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am eu harfer. Â chymorth swyddogion, mae hi:
Penodir Judith Paget, Prif Weithredwr, GIG Cymru gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru ac mae ganddi rôl gyfunol fel Prif Weithredwr, GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae wedi’i dynodi’n Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer GIG Cymru, ac mae’n Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol mewn perthynas â’i rôl yn Gyfarwyddwr Cyffredinol.
Yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’n aelod o’r Bwrdd Cyflenwi a Pherfformiad Strategol, a gadeirir gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Parhaol mewn perthynas â’r perfformiad personol hwn a’r ffordd y caiff Grŵp y Gyfarwyddiaeth ei redeg.
Yn Brif Weithredwr, GIG Cymru, mae’n atebol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae’n gyfrifol am ddarparu cyngor ar bolisi ac arfer arweinyddiaeth strategol a rheolaeth o’r GIG. I’w chefnogi yn y rôl hon, mae’n cadeirio Grŵp Cyflawni Cenedlaethol sy’n datblygu polisïau, yn cynllunio’r gwaith o ddatblygu ac yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r GIG o fewn y fframwaith polisi a pherfformiad a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.