Neidio i'r prif gynnwy

Gwybod Pwy Sy'n Gwneud Beth a Pham

Knowing Who Does What and Why

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am strwythur GIG Cymru a’r ffordd y’i rheolir; mae hefyd yn ymdrin â’r fframwaith cyfreithiol (gan gynnwys Rheolau Sefydlog Enghreifftiol), llywodraethu a rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwyddau cyrff y GIG ac unigolion.

Mae gwybod pwy sy’n gwneud beth a pham yn golygu bod yn gwbl glir a chytûn ynglŷn â rôl pawb a’i lle yn y darlun ehangach. Mae hyn yn golygu, er enghraifft ar lefel Bwrdd, bod pob aelod yn glir ynglŷn â’i rôl ei hun ac ynglŷn â rôl y sawl sy’n eistedd y drws nesaf iddo a chyferbyn. Pan fo Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol, mae’n golygu bod yn glir ynglŷn â’u rolau – sy’n lled wahanol ond yn ategu ei gilydd. Ond nid ymwneud ag unigolion yn unig y mae, ac nid o fewn ffiniau sefydliad yn unig y mae’n berthnasol.

Pan fo Pwyllgorau a Grwpiau Cynghori dylai pawb fod yn glir ynglŷn â’r berthynas â’r prif Fwrdd a’r gwahaniaeth rhwng y rolau. Ac nid yw’r egwyddor hon wedi’i chyfyngu i’r sefydliad ei hun, mae hefyd yn golygu bod yn glir ynglŷn â’i berthynas â’i bartneriaid a’i randdeiliaid; ynglŷn â’i le yn y darlun ehangach; ac ynglŷn â lle gwahanol ganghennau Llywodraeth Cymru yn y darlun hefyd.