Neidio i'r prif gynnwy

Arweinyddiaeth

 

Gweinidogion Cymru

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gyfrifol am yr holl bwerau yn ei phortffolio, ac yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am eu harfer. Â chymorth swyddogion, mae hi:

  • Yn pennu'r fframwaith polisi a strategol y dylai'r GIG yng Nghymru weithredu o'i fewn;
  • Y cytuno yn y Cabinet, trwy gyd-drafod, ynghylch y fframwaith adnoddau cyffredinol ar gyfer y GIG yng Nghymru;
  • Yn pennu dosbarthiad strategol adnoddau cyffredinol y GIG;
  • Yn gosod y fframwaith safonau a pherfformiad ar gyfer y GIG yng Nghymru; ac
  • Yn galw arweinwyr y GIG i gyfrif

 

Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Penodir Judith Paget, Prif Weithredwr, GIG Cymru gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru ac mae ganddi rôl gyfunol fel Prif Weithredwr, GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae wedi’i dynodi’n Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer GIG Cymru, ac mae’n Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol mewn perthynas â’i rôl yn Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’n aelod o’r Bwrdd Cyflenwi a Pherfformiad Strategol, a gadeirir gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Parhaol mewn perthynas â’r perfformiad personol hwn a’r ffordd y caiff Grŵp y Gyfarwyddiaeth ei redeg.

Yn Brif Weithredwr, GIG Cymru, mae’n atebol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae’n gyfrifol am ddarparu cyngor ar bolisi ac arfer arweinyddiaeth strategol a rheolaeth o’r GIG. I’w chefnogi yn y rôl hon, mae’n cadeirio Grŵp Cyflawni Cenedlaethol sy’n datblygu polisïau, yn cynllunio’r gwaith o ddatblygu ac yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r GIG o fewn y fframwaith polisi a pherfformiad a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.