Neidio i'r prif gynnwy

Safon Llywodraethu, Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd

Llywodraethu, Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd                                                                                                                                                                                                                                 Mae’n hanfodol gweithredu trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth ac atebolrwydd sy’n briodol ar gyfer maint a chymhlethdod y gwasanaethau iechyd er mwyn darparu gofal diogel ac effeithiol cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

 

Bydd angen i’r gwasanaeth iechyd ystyried y meini prawf canlynol ar gyfer bodloni’r safon:

  • Bod y gwasanaethau iechyd yn dangos arweinyddiaeth effeithiol drwy osod cyfeiriad, ennyn brwdfrydedd, datblygu pobl, a sicrhau cyflymder wrth gamu ymlaen.
  • Bod strategaeth yn cael ei gosod gyda ffocws ar ganlyniadau a dewisiadau yn seiliedig ar dystiolaeth a dealltwriaeth o sefyllfa a theimladau pobl. Rhaid defnyddio dull gweithredu cydweithredol sy’n adeiladu ar ddibenion cyffredin.
  • Bod y gwasanaethau iechyd yn arloesi ac yn gwella gwasanaethau, gan gynllunio a blaenoriaethu adnoddau; datblygu rolau, cyfrifoldebau a modelau cyflenwi clir; a rheoli perfformiad a materion sy’n ymwneud â sicrhau gwerth am arian.
  • Bod y gwasanaethau iechyd yn meithrin diwylliant o ddysgu a hunanymwybyddiaeth, ac o uniondeb personol a phroffesiynol.