Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r Dinesydd yn Gyntaf

Putting the Citizen First

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r agweddau hynny ar GIG Cymru sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddinasyddion ac mae’n rhoi arweiniad ar y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru, y ddyletswydd ansawdd, diogelwch cleifion, effeithiolrwydd clinigol, etc; a disgwyliadau personol ehangach, gan gynnwys urddas mewn gofal, cydsyniad cleifion, darparu gwasanaethau yn Gymraeg a gofal ysbrydol.

Nid yw rhoi’r dinesydd yn gyntaf yn gyfystyr â rhoi i ddinasyddion bopeth y maent yn ei ddymuno – weithiau bydd gan wahanol bobl ddymuniadau gwahanol. Ymagwedd gorfforaethol ydyw sy’n rhoi buddiannau’r dinesydd yn gyntaf, cyn buddiannau’r sefydliad. 

Mae gan y term “dinesydd” ddiffiniad eang ac mae’n golygu unrhyw un sy’n derbyn, neu sy’n cael ei effeithio gan, wasanaethau cyhoeddus. Felly, yn GIG Cymru, cleifion yw’r dinasyddion amlwg; ond y mae eraill y mae’n rhaid i GIG Cymru eu hystyried – perthnasau cleifion, er enghraifft. Gall sefydliadau ddiffinio hyn mewn gwahanol ffyrdd – claf, defnyddiwr gwasanaeth, derbynwyr gwasanaeth, etc. Nid oes cymaint o ots am yr enw. Yr agwedd a’r diwylliant sefydliadol sy’n bwysig.

Mae rhoi’r dinesydd yn gyntaf yn golygu addasu’r hyn a wna sefydliad a’r ffordd y bydd yn darparu gwasanaethau i gyd-fynd â dymuniadau ei ddinasyddion, i’r graddau y gall o fewn ei gyfyngiadau ei hun. Mae’n golygu’r gallu i edrych ar yr hyn y mae’n ei ddarparu o safbwynt y dinesydd.