Mae PROMPT (Hyfforddiant Amlbroffesiynol Obstetrig Ymarferol) yn becyn hyfforddiant amlbroffesiynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer argyfyngau obstetrig. Mae'n gysylltiedig â gwelliannau uniongyrchol mewn canlyniadau i famau a babanod trwy wella gwybodaeth, sgiliau clinigol a ffactorau dynol. Mae'n cael ei redeg gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT, sefydliad elusennol wedi'i leoli ym Mryste, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant obstetrig brys. Ewch i wefan Sefydliad Mamolaeth PROMPT ymai gael rhagor o wybodaeth am PROMPT.
Mae PROMPT wedi’i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg (RCOG), Cymdeithas yr Anesthetyddion Obstetrig (OAA) a Choleg Brenhinol Bydwragedd (RCM). Mae wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad o 50% mewn babanod sydd wedi cael eu geni ar ôl cyfnod llawn yn y groth ag Apgar 5 munud <7, gostyngiad o 50% mewn enseffalopathi hypocsig-isgemig newyddenedigol (HIE) a gostyngiad o 100% mewn anafiadau plecsws breichiol parhaol ar ôl ‘dystocia’ ysgwydd.
Ewch i wefan Sefydliad Mamolaeth PROMPT yma i gael rhagor o wybodaeth am PROMPT.
Cliciwch yma i wylio fideos hyfforddiant defnyddiol ar sianel YouTube PROMPT.
Rhaglen diogelwch mamolaeth yw PROMPT Cymru a ariennir gan Gronfa Risg Cymru ac a gefnogir gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT. Ym mis Mai a mis Mehefin 2018, mynychodd timau aml-broffesiynol o anesthetyddion, bydwragedd, obstetregwyr a gweithwyr cymorth sy'n cynrychioli pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gwrs hyfforddi pwrpasol a gyflwynwyd gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT. Addaswyd deunyddiau hyfforddi PROMPT i alinio â mentrau GIG Cymru, ac roedd Cronfa Risg Cymru yn falch o groesawu cyfranogiad a chefnogaeth tîm OBS Cymru. DOLEN YMA
Gyda chefnogaeth Tîm Gweithredu PROMPT Cymru, cymerodd y clinigwyr profiadol hyn gyfrifoldeb am ddatblygu’r cynnwys a rhedeg cyrsiau PROMPT Cymru yn eu gwasanaethau, ac erbyn Ionawr 2019, roedd PROMPT Cymru ar waith ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd.