Jonathan Webb yw Pennaeth Diogelwch a Dysgu Cronfa Risg Cymru ac roedd yn allweddol wrth sefydlu rhaglen PROMPT Cymru. Mae gan Jonathan ddiddordeb mawr yn y rhaglen, ac mae’n darparu cefnogaeth arweinyddiaeth i Dîm Cenedlaethol PROMPT Cymru.
Mae Sarah Hookes yn Fydwraig Gofrestredig ac yn Uwch Gynghorydd Diogelwch a Dysgu ar gyfer rhaglenni Mamolaeth a Diogelwch a Dysgu Cronfa Risg Cymru. Mae Sarah yn cynnal yr arweinyddiaeth strategol ar gyfer rhaglen PROMPT Cymru.
Sarah Morris yw Bydwraig Genedlaethol PROMPT Cymru ac yn Fydwraig Datblygu Ymarfer ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae Mr Niladri Sengupta yn Ymgynghorydd mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Glan Clwyd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) ac ef yw Arweinydd Clinigol PROMPT Cymru.
Mae Dr Daniel Helme yn Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) ac mae’n Gynghorydd Anestheteg i PROMPT Cymru.
Mae gan Jane flynddoedd lawer o brofiad o brofiad fel bydwraig ward geni.
Fel aelod o dîm aml-broffesiynol gyda Sefydilad Mamolaeth PROMPT, cefnogodd Jane dîm PROMPT Cymru gyda gweithredu PROMPT ledled Cymru yn 2018.
Mae Jane yn gweithio fel bydwraig banc gyda Thîm Cenedlaethol PROMPT Cymru.
Mae Jenilee Harrison yn Fydwraig Datblygu Ymarfer profiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn ogystal â'i swydd barhaol, mae Jenilee wedi ymuno â Thîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn Fydwraig Banc.
Mae Amy Hayman yn Fydwraig Cylchdro brofiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan lle mae'n hwyluso hyfforddiant PROMPT Cymru yn rheolaidd. Yn ogystal â'i swydd barhaol, mae Amy wedi ymuno â Thîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn Fydwraig Banc.
Mae Sarah Hughes yn Rheolwr Gweithrediadau yng Nghronfa Risg Cymru ac mae'n darparu cymorth gweinyddol i Dîm Cenedlaethol PROMPT Cymru.