Mae Cronfa Risg Cymru wedi sefydlu Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru, sy’n cynnwys clinigwyr profiadol o bob cwr o GIG Cymru a chymorth ychwanegol gan PROMPT Maternity Foundation. Trwy gefnogi cyfadrannau PROMPT Cymru lleol i hyfforddi aelodau ychwanegol o’u cyfadran, bydd Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn sicrhau bod digon o glinigwyr medrus i arwain hyfforddiant PROMPT Cymru. Yn ystod y cyfnod gweithredu, bydd Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn darparu cymorth â ffocws i’r holl wasanaethau mamolaeth ledled GIG Cymru, gan adeiladu ar y sylfeini hyfforddiant cryf a chynorthwyo pob gwasanaeth mamolaeth i ddatblygu rhaglen gynaliadwy, fel bod modd sicrhau hyfforddiant o ansawdd uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn ledled Cymru.