Mae Cronfa Risg Cymru yn parhau i gefnogi byrddau iechyd yn dilyn gweithredu’r rhaglen yn llwyddiannus. Mae Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn cynnig cefnogaeth barhaus i gyfadrannau lleol PROMPT Cymru, gan adeiladu ar y sylfeini hyfforddi cryf a chynorthwyo pob gwasanaeth mamolaeth i ddatblygu rhaglen gynaliadwy fel y gellir darparu hyfforddiant o ansawdd uchel o’r naill flwyddyn i’r llall ledled Cymru.
Trwy bresenoldeb ar gyrsiau lleol, gall y tîm cenedlaethol sicrhau hyfforddiant o safon uchel a rhoi sicrwydd ansawdd i Gronfa Risg Cymru, timau arweinyddiaeth lleol a Llywodraeth Cymru. Mae’r tîm hefyd yn monitro cydymffurfiad yn erbyn Safonau PROMPT Cymru.