Rhaglen ddiogelwch mamolaeth ar gyfer 'Cymru Gyfan' a ddatblygwyd gan Dîm Cenedlaethol PROMPT Cymru ac fe'i gweithredwyd ym mis Medi 2021 yn dilyn cynllun peilot 12 mis llwyddiannus. Gan adeiladu ar gyflwyno PROMPT Cymru yn llwyddiannus, caiff hyfforddiant ei gyflwyno mewn ffordd sy'n cynrychioli ymarfer mewn lleoliadau dan arweiniad bydwragedd. Cynhelir senarios yn y canolfannau geni neu leoliad geni yn y cartref a efelychir ac maent yn canolbwyntio ar reoli argyfyngau mewn tîm bach heb fynediad cynnar at gymorth obstetreg. Mae Bydwragedd, Cynorthwywyr Gofal Mamolaeth a Pharafeddygon yn hyfforddi gyda'i gilydd, gan ddefnyddio eu hoffer eu hunain gan fod yn gyson a’u harferion gwaith arferol. Mae adnoddau hyfforddi PROMPT wedi'u haddasu i adlewyrchu hyn ac mae algorithmau a phrofformâu PROMPT Cymru yn y Gymuned bellach wedi'u mabwysiadu mewn canllawiau ac ymarfer clinigol cenedlaethol ledled Cymru. Hwylusir yr hyfforddiant gan fydwragedd a pharafeddygon sydd wedi bod ar raglen hyfforddi datblygu cyfadrannau PROMPT Cymru gymeradwy. Mae hyfforddiant mewn lleoliadau cymunedol hefyd yn hwyluso profi systemau a phrosesau ac yn nodi meysydd o ran gwella sefydliadol.
Gyda chynnydd disgwyliedig mewn genedigaethau yn y gymuned yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru — 'Gofal Mamolaeth yng Nghymru - Gweledigaeth Pum Mlynedd ar gyfer y Dyfodol (2019-2024)' mae rhaglen PROMPT Cymru yn y Gymuned yn cefnogi datblygiad timau sy'n fedrus i adnabod a rheoli sefyllfaoedd brys mewn lleoliadau cymunedol yn effeithlon ac yn effeithiol, gan wneud y gorau o ddiogelwch a lleihau niwed.