Neidio i'r prif gynnwy

Nicola Phillips

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru

Mae Nicola wedi gweithio yn y GIG am 35 mlynedd. Treuliodd ei 11 mlynedd gyntaf yn nhîm Cyllid, yna symudodd Nicola i’r adran Gofal Sylfaenol ym mis Ebrill 2000.

Mae Nicola yn teimlo’n freintiedig o fod wedi llwyddo i lunio gyrfa yn GIG Cymru ac mae wedi bod yn gweithio ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) ers ei sefydlu. Ymunodd â PCGC mewn rôl Rheolwr Taliadau Cymru Gyfan, ac yn dilyn hynny fe’i dyrchafwyd yn Bennaeth Gwasanaethau Ymgysylltu a Chymorth a thros y 4 blynedd diwethaf mae wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.

Parhaodd Nicola i wella ei datblygiad proffesiynol yn y rolau arweinyddiaeth uwch hyn a disgrifiwyd fel arweinydd carismatig ysgogol gyda sgiliau rhyngbersonol cryf a all ysgogi ac ysbrydoli eraill i lwyddo.

Mae ganddi ferch, mab ac un wyres ac mae wedi gwasanaethu fel Llywodraethwr Cymunedol mewn Ysgol Gynradd leol.

 

Cyswllt

Cynorthwyydd Personol

 

Ffôn:

Rhannu: