Neidio i'r prif gynnwy

EIDO Healthcare Download Centre (Taflenni Gwybodaeth i Gleifion)

Mae llyfrgell lawrlwytho EIDO InformTM yn darparu taflenni gwybodaeth triniaeth-benodol i gleifion. Mae hyn wedi'i gaffael a'i ariannu'n ganolog gan Gronfa Risg Cymru i'w ddefnyddio gan holl gyrff iechyd Cymru. Mae dros 400 o daflenni triniaeth-benodol ar gael yn y llyfrgell ac mae'r contract gydag EIDO yn hwyluso cynhyrchu nifer o daflenni gwybodaeth ychwanegol ar gyfer triniaethau newydd yn unol â cheisiadau gan gyrff iechyd Cymru. Mae pob un o'r taflenni EIDO ar gael yn Gymraeg, Saesneg, yn ddwyieithog a hefyd mewn rhai ieithoedd rhyngwladol.

Mae gan bob corff iechyd yng Nghymru ei gyswllt unigol uniongyrchol ei hun sy'n caniatáu i glinigwyr fewngofnodi'n awtomatig i'r llyfrgell lawrlwytho heb fod angen defnyddio enw defnyddiwr na chyfrinair. Gall clinigwyr gyrchu'r ddolen EIDO ar gyfer eu corff iechyd yng Nghymru yn uniongyrchol trwy dudalen fewnrwyd eu corff iechyd

Mae'r buddion allweddol o ran defnyddio taflenni gwybodaeth i gleifion yn cynnwys:

  • Gwella dealltwriaeth cleifion o'r broblem a'r opsiynau triniaeth
  • Gwella cyfranogiad cleifion yn y broses benderfynu ('gwneud penderfyniadau ar y cyd')
  • Cleifion yn fwy bodlon ar y gwasanaeth
  • Prosesau cydsynio mwy cadarn trwy ddarparu'r lefel orau o fanylder ynghylch y risgiau a’r manteision sy'n gysylltiedig â thriniaeth benodol wedi'i chefnogi gyda thrafodaeth am y risgiau materol (pwysig) i'r claf unigol
  • Lleihau’r tebygolrwydd o ymgyfreitha llwyddiannus yn erbyn y GIG, o'i gyfuno â chadw cofnodion a dogfennaeth effeithiol
  • Ar gael mewn fformatau hygyrch, sef print bras, print anferth, darllenydd sgrin a Hawdd ei Ddarllen.