Nod GIG Cymru yw darparu'r gofal a'r driniaeth orau un. Ond weithiau mae’n bosibl na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl.
Caiff hawliadau am ddigollediad eu gwneud pan fydd pryder yn sgil cwyn yn cael ei leisio neu pan fydd rhywbeth yn digwydd ynghylch diogelwch claf.
Yn ogystal â hyn, mae GIG Cymru wedi cyflwyno'r cysyniad o “wneud iawn” lle mae'n ofynnol i sefydliadau'r GIG ymchwilio i gwynion neu bryderon i asesu a oes rhwymedigaeth gymhwyso ac felly'r hawl i gael digollediad.
Rhoddwyd cyfrifoldeb dirprwyedig i wasanaeth Cronfa Risg Cymru i weinyddu'r trefniant cronni risg ar gyfer GIG Cymru ac mae hyn yn cynnwys rheoli ad-daliadau i aelod-sefydliadau unwaith y bydd hawliadau wedi'u setlo.
O dan y broses Gweithio i Wella, mae tîm Cronfa Risg Cymru yn gweithio gyda sefydliadau'r GIG yng Nghymru i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i ddysgu o ddigwyddiadau ac i nodi gwelliannau a'u gweithredu.
Gan ganolbwyntio ar Gylchlythyr Iechyd Cymru a Pholisi Cymru Gyfan ar Yswiriant ac Indemniad, mae'r tîm yn sicrhau bod sefydliadau wedi'u hindemnio'n briodol ac yn gost-effeithiol.