Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydweithiau Diogelwch a Dysgu

Safety and Learning Networks

Mae Cronfa Risg Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddysgu gyda'i gilydd, i rannu profiadau ac i rannu meysydd arfer gorau.

Mae rhwydweithiau dysgu wedi'u sefydlu ac yn cael eu hwyluso gan Gronfa Risg Cymru ac yn creu fforwm ar gyfer ymarferwyr diogelwch cleifion ac yn casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau i wella ymarfer ledled GIG Cymru. 

Mae'r Rhwydweithiau'n dilyn rhai egwyddorion craidd

  • Ffocws ar Bynciau - sicrhau bod pob pwnc yn cael ei drafod yn iawn. 
  • Ffocws ar Ymarferwyr - bydd ymarferwyr yn y maes pwnc yn eu mynychu a’u cadeirio
  • Ffocws ar Ganlyniadau - galluogi ymarferwyr yn y maes i ystyried dylunio a gwella gwasanaethau trwy drafodaethau ymarferol ar gysyniadau ar gyfer newid a dod i gytundeb ynghylch cyfeiriad. 
  • Hwyluso - Mae Cronfa Risg Cymru yn hwyluso cyfarfodydd a, lle bo angen, fynediad at uwch arweinwyr yn y GIG, Llywodraeth Cymru a Sefydliadau Partner.
  • Lle ar gyfer datblygu consensws - amgylchedd ar gyfer trafodaeth ystyriol a gwerth chweil. Lle gwahoddir sefydliadau partner, cyrff rheoleiddio a phartïon eraill â diddordeb er mwyn gallu datblygu opsiynau.
  • Uwchgyfeirio a hierarchaeth - Bydd canlyniadau a chrynodebau cyfarfodydd Rhwydwaith yn cael eu hadrodd i'r Grwp Gwrando a Dysgu o Adborth Cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae Cronfa Risg Cymru yn cefnogi'r rhwydweithiau canlynol;

  • Rhwydwaith Trin Cwynion
  • Rhwydwaith Rheoli Achosion Gwneud Iawn
  • Rhwydwaith Rheoli Hawliadau
  • Rhwydwaith Rheoli Achosion Cwest
  • Pennaeth Rhwydwaith Profiad y Claf