Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglenni Addysgu a Datblygu

Education & Development Programmes

Ffordd allweddol o leihau niwed ac i wella gwasanaethau gofal iechyd yw grymuso clinigwyr a staff cymorth â gwybodaeth, sgiliau ac ymwybyddiaeth o faterion a thechnegau allweddol i nodi gofynion allweddol ar gyfer newid.

Mae Cronfa Risg Cymru wedi datblygu ystod fach o raglenni dysgu a datblygu gyda'r nod o gefnogi dysgu o ddigwyddiadau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd i wella gofal iechyd ledled Cymru.

 

Tystysgrif mewn Rheoli Risg Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyfreithiol

Rhaglen hyfforddi benodol ar lefel tystysgrif ar gyfer rheolwyr hawliadau a phryderon yng Nghymru. Mae'r cwrs yn cwmpasu'r meysydd hyfforddi hanfodol ar gyfer y grŵp hwn o reolwyr a dim ond yng Nghymru a Lloegr y bu ar gael yn flaenorol.

 

Ymchwiliadau Effeithiol i Ddigwyddiadau Gofal Iechyd

Dyma raglen o hyfforddiant i gefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan mewn ymchwiliadau gofal iechyd. Gan adeiladu ar egwyddorion cydnabyddedig, mae'r hyfforddiant sgiliau ymchwilio yn helpu cyfranogwyr i nodi materion y mae angen mynd i'r afael â hwy a'r camau sy'n ofynnol i fynd i'r afael â hwy.