Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr

Mae Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn broses genedlaethol yng Nghymru sy'n cefnogi myfyrwyr gofal iechyd blwyddyn olaf wrth iddynt symud o'r brifysgol i'w rolau cyntaf fel gweithwyr proffesiynol newydd gymhwyso. Mae'n darparu ffordd deg, gyson a thryloyw o baru’r myfyrwyr â swyddi gwag sydd ar gael o bob cwr o GIG Cymru ac mae'n golygu mai dim ond un cais sydd raid i’r myfyrwyr ei gwblhau a gallant wneud cais am hyd at 4 rôl ledled Cymru.

Mae sefydliadau GIG Cymru yn cyflwyno swyddi gwag addas a rhai sydd ar gael i dîm Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr PCGC, fel y gallant gael eu hychwanegu at Hwb Myfyrwyr y GIG (a elwir hefyd yn system y cynllun Paru). Yn ystod cyfnod 'byw', gwahoddir y myfyrwyr i lenwi ffurflen gais a dewis hyd at 4 dewis o'r swyddi gwag sydd wedi'u hychwanegu at y system. Unwaith y bydd ceisiadau wedi'u cyflwyno, bydd y cynllun yn cau i alluogi rheolwyr recriwtio’r Byrddau Iechyd i adolygu ceisiadau'r myfyrwyr. Drwy broses o lunio rhestr fer, mae'r rheolwyr recriwtio wedyn yn rhestru'r myfyrwyr yn nhrefn eu dewis. Unwaith y bydd y myfyrwyr wedi nodi eu dewisiadau a bod y rheolwyr wedi rhestru'r ymgeiswyr yn y drefn y maent yn ei ffafrio, caiff algorithm ei redeg, sy'n cael ei bwysoli o blaid dewis y myfyriwr. Yr algorithm sydd wedyn yn dyrannu’r myfyrwyr i un o'u rolau dewisol. Yna mae tîm Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr PCGC yn cysylltu â’r myfyrwyr a’r rheolwyr i roi gwybod iddynt am y canlyniad. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd y myfyrwyr yn dilyn proses recriwtio safonol yr Agenda ar gyfer Newid, lle byddant yn destun gwiriadau cyn cyflogi cyn cytuno ar ddyddiad cychwyn a fydd yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau hyn yn llwyddiannus.

 

student streamlining service welsh icon

 

Os na chaiff rôl ei dyrannu i fyfyriwr fel rhan o'r cynllun paru, yna bydd y myfyriwr yn symud i'r cyfnod Dyraniad Ychwanegol lle bydd yn cael ei wahodd i ymuno â'r broses uwchgyfeirio. Bydd tîm Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr PCGC yn parhau i weithio gyda’r myfyrwyr a’r byrddau iechyd i nodi swydd addas.

Mae tîm y Cynllun Symleiddio Myfyrwyr yn rhan o dîm Recriwtio GIG Cymru, sy'n rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC. Mae'r tîm yn gyfrifol am weinyddiaeth y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr ac am gefnogi’r myfyrwyr a’r Byrddau Iechyd ym mhob cam.