Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol

Ynglŷn â'n Tîm

Mae'r tîm Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn cefnogi cynaliadwyedd y gweithlu ar draws GIG Cymru drwy ddarparu gwasanaethau cenedlaethol allweddol.

Rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd a rhanddeiliaid i sicrhau datrysiadau gweithlu diogel ac effeithlon.

 

Ceisiadau ar gyfer Cofrestr Locwm Cymru Gyfan

Gweinyddu a phrosesu ceisiadau i Gofrestr Locwm Cymru Gyfan, gan sicrhau bod Meddygon Teulu Locwm yn bodloni'r safonau gofynnol ac yn cael eu hindemnio i ymgymryd â gwaith ar draws GIG Cymru.

 

Gwirio Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol

Gwirio trefniadau indemniad ar gyfer staff Meddygol Cyffredinol Gofal Sylfaenol, gan gefnogi cydymffurfiaeth a sicrwydd.

 

Locum Hub Wales

Platfform digidol cenedlaethol sy'n cysylltu gwasanaethau meddygon teulu â gweithlu hyblyg, gan alluogi archebu a rheoli sifftiau meddygon teulu locwm ledled Cymru.

 

Gwybodaeth a Data'r Gweithlu

Mae cyhoeddiadau data’r Gweithlu Meddygol Gofal Sylfaenol ar gael yma: 

https://www.llyw.cymru/gweithlu-practis-cyffredinol

 

Am bob ymholiad ynghylch data'r gweithlu, cysylltwch â:

nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

 

Cysylltu â ni: NWSSP.PrimaryandCommunityCareSustainability@wales.nhs.uk

 

 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddod â’r gwasanaethau newydd hyn i bractisiau meddygon teulu.