Neidio i'r prif gynnwy

Y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn sgil cytundeb â Byrddau Iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu proses paru yn rhan o’r Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr.
 
 
Mae PCGC wedi bod yn gweithio’n agos gyda phrifysgolion yng Nghymru er mwyn rhoi’r broses ymgeisio ar lein ar waith ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru (sef System Cymorth Ar Lein ar gyfer Bwrsariaethau, neu BOSS). Mae’r manteision a ddaw o gydweithio â sefydliadau eraill yn y GIG ac â darparwyr addysg er mwyn cefnogi myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru eisoes wedi eu gwireddu, gan fod y System Cymorth Ar Lein ar gyfer Bwrsariaethau (BOSS) bellach ar waith. O ganlyniad, roedd awydd i weld pa newidiadau eraill y gellid eu gwneud a fyddai’n annog myfyrwyr a hyfforddwyd yng Nghymru i aros yng Nghymru  ac a fyddai’n dileu gweithgarwch nad yw’n ychwanegu gwerth, a hynny trwy broses drafodol symlach.
 

student streamlining service welsh icon