Neidio i'r prif gynnwy

Tystysgrif Nawdd Gweithiwr Medrus

 

Os ydych yn Bractis Meddyg Teulu sydd angen cymorth i sefydlu Trwydded Tystysgrif Nawdd i Weithiwr Medrus, ewch i dudalen we Cymorth i Bractisiau Meddygon Teulu ar gyfer Tystysgrif Nawdd i Weithiwr Medrus am ragor o wybodaeth. 

Os ydych yn Rheolwr Recriwtio neu’n Gyflogwr Arweiniol Sengl ac mae angen Tystysgrif Nawdd (CoS) ar gyfer unigolyn, lawrlwythwch, llenwch a dychwelwch Ffurflen gais Tystysgrif Nawdd Gweithiwr Medrus PCGC i’r tîm CoS. 

 

 

Tier 2 Certificate of Sponsorship welsh icon

Am arweiniad a dogfennau perthnasol eraill ar sut i gwblhau'r ffurflen hon, gweler adran Dogfennau Defnyddiol y dudalen hon.

Mae Tîm CoS PCGC wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno Tystysgrif Nawdd (CoS) i bob meddyg a deintydd dan hyfforddiant a benodir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ynghyd â grwpiau staff eraill yn GIG Cymru y mae angen Tystysgrif Nawdd Gweithiwr Medrus arnynt er mwyn dechrau mewn swydd. Bydd eu Cyflogwr yn cysylltu â'r rhai sydd angen nawdd i ddechrau'r broses CoS.

Mae Tîm CoS PCGC hefyd yn darparu Tystysgrif Nawdd i bob grŵp staff cymwys yn GIG Cymru ar gyfer sefydliadau penodol, y mae’n bosibl bod rhai ohonynt wedi’u rheoli gan Wasanaethau Recriwtio PCGC yn flaenorol, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Gweler isod am restr o Sefydliadau’r GIG yng Nghymru y mae Tîm Tystysgrif Nawdd PCGC yn eu cwmpasu:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Trwydded Tystysgrif Nawdd Cymru Gyfan
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gan gynnwys:
      • PCGC
      • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
      • Canolfan Ganser Felindre
      • Gwasanaeth Gwaed Cymru

Noder: Ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant a benodir gan AaGIC, gall y lleoliad gwaith fod yn unrhyw le yn GIG Cymru, gan gynnwys mewn sefydliadau nad ydynt wedi’u rhestru uchod o bosibl.

Ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant a benodir gan AaGIC neu weithwyr dan hyfforddiant a gyflogir gan Gyflogwr Arweiniol Sengl PCGC, bydd Tystysgrif Nawdd y Gweithiwr Medrus yn cwmpasu cyfnod y rhaglen hyfforddiant, gan gynnwys yr holl gylchdroeon. Os ydych yn Hyfforddai ac nad oes angen CoS arnoch am gyfnod llawn eich rhaglen, dylech hysbysu eich Cyflogwr. Ar gyfer yr holl swyddi eraill, bydd Rheolwr Recriwtio’r swydd yn pennu hyd y Dystysgrif Nawdd a bydd yn rhoi gwybod i Dîm Tystysgrif Nawdd PCGC.

Dim ond pan ddaw eu rhaglen i ben y bydd yn rhaid i hyfforddeion wneud cais am fisa newydd, yn hytrach na gorfod ailymgeisio bob tro y cânt swydd newydd yn dilyn newid yn y cylchdro, fel y gwnaed dan yr hen drefn. Mae’r trefniant hwn yn lleihau’r costau cysylltiedig i feddygon a deintyddion dan hyfforddiant, ac yn lleihau costau gweinyddol a chostau cysylltiedig i sefydliadau’r GIG yng Nghymru.