Neidio i'r prif gynnwy

Gareth Rees

Daeth Gareth yn Gyfreithiwr cymwys yn 2013.

Cafodd Gareth ei radd LLB yn y Gyfraith a’i gymhwyster Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol yn y gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, lle'r oedd yn gweithio fel Para-gyfreithiwr cyn sicrhau cytundeb hyfforddi yn 2011. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn yr adran Esgeuluster Clinigol, lle mae’n arbenigo mewn hawliadau, cwestau, unioni a chostau esgeuluster clinigol.

Yn ei amser rhydd, mae Gareth yn mwynhau gwylio a chwarae chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, golff a sgïo. Mae ganddo ddiddordeb mewn hanes, yn enwedig y cyfnod Plantagenet. Mae hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.