Neidio i'r prif gynnwy

Rosie Day

Cymhwysodd Rosie fel Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn 2015.

Astudiodd Rosie am ei gradd israddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, a graddiodd yn 2011. Yna bu’n gweithio mewn cwmnïau preifat (ym Mryste a Chaerdydd) gan arbenigo mewn Esgeulustod Clinigol a hefyd hawliadau Esgeulustod Proffesiynol. Cynrychiolodd Rosie Hawlwyr tan 2019 pan symudodd i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg lle mae hi bellach yn rheoli hawliadau Esgeulustod Clinigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Y tu allan i'r gwaith, mae Rosie yn mwynhau teithio ar ôl gwarbacio ar draws De Ddwyrain Asia a De America yn 2012. Mae Rosie hefyd yn chwarae pêl rwyd, yn mwynhau mynd â’i labradoodle (Bailey) am dro a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.