Neidio i'r prif gynnwy

Debbie Spencer

Daeth Deborah yn Gyfreithiwr cymwys yn 1990. Ar ôl cwblhau cwrs Tystysgrif Nyrsio Orthopedig, cwblhaodd Deborah ei gradd yn y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd, ac yna gweithiodd fel para-gyfreithiwr yn swyddfa Thompsons yng Nghaerdydd, cyn sefyll arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith yng Ngholeg Polytechnig Bryste. Cwblhaodd ei hyfforddiant yn swyddfa Wansbroughs Willey Hargrave ym Mryste, lle gwnaeth ystod eang o waith amddiffyn indemniad proffesiynol.  

Yn 1996, symudodd Deborah i Fanceinion i weithio i Hempsons i arbenigo ym maes ymgyfreitha diffynyddion esgeuluster clinigol, gan roi cyngor i Awdurdod Ymgyfreitha’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Ymddiriedolaethau GIG a sefydliadau amddiffyn meddygol. Yn 1998, cwblhaodd LLM mewn Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn 2004, symudodd yn ôl i Gaerdydd i weithio i’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Mae gan Deborah brofiad eang o hawliadau clinigol yn amrywio ar hyd holl sbectrwm ymarfer meddygol. Hi sydd hefyd yn gyfrifol am recriwtio, goruchwylio a datblygu’r holl gyfreithwyr dan hyfforddiant yn y gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Yn ei hamser rhydd, mae Deborah yn mwynhau rhedeg, seiclo, cerdded ar hyd yr arfordir ac ar fryniau, sgïo a choginio.