Neidio i'r prif gynnwy

Gemma Cooper

Symudodd Gemma o Sir Fôn i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer ei LLB, LLM (Gradd Meistr mewn Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol) a’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol. Ar ôl derbyn y cymwysterau hyn, ymunodd â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2008 fel para-gyfreithiwr yn yr adran Anafiadau Personol. 

 

Daeth yn Gyfreithiwr cymwys yn 2011, a bellach, mae hi’n gweithio yn yr adran Esgeuluster Clinigol. Mae ganddi lwyth achosion amrywiol, sy’n cynnwys hawliadau cymhleth a gwerth uchel. Mae hi hefyd yn arbenigo mewn hawliadau yn erbyn y Gwasanaeth Ambiwlans. Mae Gemma’n cynrychioli Cyrff Iechyd mewn cwestau yn aml, ac mae’n rhoi cyngor ynghylch ymchwiliadau a digwyddiadau niweidiol.

Gemma yw pennaeth y tîm Gweithio i Wella yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, ac mae hi’n aelod o sawl grŵp gorchwyl a gorffen yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae’r tîm Gweithio i Wella yn rhoi cymorth i GIG Cymru i gyd, a chafodd gymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Staff PCGC yn ddiweddar.

Yn ei hamser rhydd, mae Gemma’n mwynhau darllen, gwrando ar gerddoriaeth a choginio. Mae hi wedi cwblhau ras Pretty Muddy Ras am Oes, ras 10k Caerdydd a Her Tri Chopa Cymru i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre.