Neidio i'r prif gynnwy

Vanessa Llewellyn

Daeth Vanessa yn Gyfreithiwr cymwys yn 1996.

Cafodd Vanessa ei Gradd LLB (Anrh) ym 1993, cyn cael Diploma mewn Ymarfer y Gyfraith yn 1994, a chwrs Meistr mewn Cyfraith Iechyd Meddwl yn 2008.

Dechreuodd ei chytundeb hyfforddi gyda Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth yn y Swyddfa Gymreig, cyn i’r Uned gael ei throsglwyddo at y GIG. Mae Vanessa wedi bod yn yr adran Gyfreithiol a Risg ers cwblhau ei chytundeb hyfforddi, ac, felly, ers ei sefydlu. Mae hi’n Arweinydd Tîm o fewn yr Is-adran Esgeuluster Clinigol, a hefyd yn arweinydd tîm ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae llwyth achosion Vanessa yn amrywiol, ac mae’n cynnwys hawliadau cymhleth, â gwerth uchel, fel anafiadau i’r asgwrn cefn a’r ymennydd. Mae hi hefyd yn cynrychioli cleientiaid mewn Cwestau, ac mae’n darparu hyfforddiant mewn nifer o feysydd, fel cadw cofnodion, cwynion ac esgeuluster clinigol.

Mae Vanessa wedi bod yn rhan o Weithgor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datrys Cyflym, ac, yn fwy diweddar, yn aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cydsynio Llywodraeth Cymru.