Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r cerdyn yn gweithio

Fel rhan o'r gwasanaeth hwn byddwch yn cael cerdyn cymhorthdal ​​digyswllt rhagdaledig Bwydydd Heb Glwten ac ychwanegir swm ariannol ato bob tri mis.

 

Gellir defnyddio’ch cerdyn cymhorthdal ​​bwydydd heb glwten rhagdaledig i brynu amryw fwydydd heb glwten gan unrhyw fanwerthwr bwyd sydd â system darllen cardiau sy’n dangos nod derbyn Mastercard®, ac eithrio masnachwyr derbyn cyfyngedig yn yr UE/AEE nad ydynt yn derbyn cardiau rhagdaledig. Mae hyn yn cynnwys prynu ar-lein ac o fferyllfeydd. 

 

Pan fyddwch chi'n siopa gyda manwerthwr neu ar-lein gallwch ddefnyddio eich cerdyn wrth y til i dalu am eich bwydydd heb glwten yn eich basged siopa. Bydd angen i chi gyflwyno’r eitemau hyn ar wahân er mwyn sicrhau mai bwydydd heb glwten yn unig y telir amdanynt gyda'ch cerdyn. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ddarparu derbynebau o'r pryniannau rydych wedi'u gwneud gyda'r cerdyn. 

Ni ellir cyfnewid y cerdyn cymhorthdal ​​bwydydd heb glwten am arian parod na'i ddefnyddio i dalu cyfrif credyd ac ni roddir newid. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio'r cerdyn yn ddigyffwrdd.

 

Fel arfer, caiff y cerdyn ei lwytho â gwerth tri mis o arian ar y tro. Pan fyddwch yn ymuno â'r gwasanaeth am y tro cyntaf, bydd yr arian yn cael ei gyfrifo o'r dyddiad y byddwch yn actifadu'r cerdyn i'r dyddiad llwytho a drefnwyd nesaf. Er enghraifft, os byddwch yn ymuno dau fis cyn y dyddiad llwytho a drefnwyd nesaf, ychwanegir gwerth dau fis o arian yn lle'r tri arferol at eich cerdyn.

 

Mae’r cymhorthdal ​​misol wedi’i gyfrifo gan ystyried

  • Y gwahaniaeth cost rhwng bwydydd heb glwten a bwydydd sy'n cynnwys glwten sydd ar gael i'w prynu mewn archfarchnadoedd ar draws ystod o gynhyrchion
  • Gofynion calorïau poblogaeth (ar gyfer oedran a rhyw)

 

Symiau cardiau yn ôl oedran a rhyw

Am ragor o wybodaeth

 

Mynediad i'r wefan

Wrth gofrestru ar y cynllun byddwch yn cael mynediad i wefan lle byddwch yn gallu gweld gwerth yr arian sy'n weddill ar eich cerdyn. Byddwch hefyd yn gallu gweld datganiad llawn o'r adeg y gwnaethoch actifadu'r cerdyn. Mae allpay Ltd wedi datblygu’r wefan hon at eich defnydd chi yn unig; ni fydd gan eich meddyg teulu na Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fynediad i’r wefan hon. 

 

Taliadau Atodol 

Pan fyddwch wedi defnyddio’r swm arian ar y cerdyn, ni ellir ei ddefnyddio hyd nes yr ychwanegir ato eto.   Fel arfer gwneir y taliadau atodol bob tri mis.

 

Eich gwybodaeth

Ni fydd unrhyw wybodaeth a gesglir amdanoch at ddibenion rhoi cardiau bwydydd heb glwten yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall ar wahân i’r hyn a nodir. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw wybodaeth farchnata gan allpay Ltd

 

Tynnu'n ôl o'r cynllun 

Os dymunwch dynnu’n ôl o’r gwasanaeth yna bydd angen i chi gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy e-bost: 

nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk a bydd angen dychwelyd y cerdyn fel y gellir ad-dalu unrhyw falans na chafodd ei ddefnyddio i'r GIG. Yna byddwch yn dychwelyd i gael eich Bwydydd Heb Glwten ar bresgripsiwn.

 

Mae’r GIG yn cadw’r hawl i’ch tynnu’n ôl o wasanaeth cerdyn rhagdaledig Bwydydd Heb Glwten os teimlir bod unrhyw dwyll neu gamddefnydd o’r cerdyn.

 

Cardiau wedi’u colli neu eu dwyn

Os byddwch yn colli eich cerdyn neu os caiff ei ddwyn, cysylltwch ag allpay Ltd a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Yna bydd y cerdyn yn cael ei ganslo ar unwaith. Mae’n bosibl y byddwch yn atebol am ffi o £10 am ailddosbarthu’r cerdyn ac am dalu’r balans sy’n weddill ar y cerdyn pan gafodd ei golli neu ei ddwyn. Bydd hyn yn cael ei asesu ar sail unigol.