Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Rhagnodi Electronig - Cardiau Clyfar GIG

 

Am y Gwasanaeth Rhagnodi Electronig 

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae meddygon teulu a rhagnodwyr eraill ym maes gofal sylfaenol, yn llofnodi presgripsiynau papur â llaw. Mae’r Gwasanaeth Rhagnodi Electronig yn caniatáu i ragnodwyr anfon presgripsiynau yn electronig i ddosbarthwr (megis fferyllfa) o ddewis y claf. Mae hyn yn gwneud y broses rhagnodi a dosbarthu yn fwy diogel, yn fwy effeithlon a chyfleus i gleifion a staff. 

 

Pam mae angen cardiau clyfar y GIG nawr? 

Mae EPS yn anfon presgripsiynau gan y meddyg teulu i'r fferyllfa trwy NHS Spine, ac mae angen cardiau clyfar y GIG i ryngweithio â Spine. Dyma’r un cardiau clyfar a ddefnyddir yn Lloegr, felly os oes gennych gerdyn clyfar o Loegr yn barod, nid oes angen i chi wneud cais eto i Gymru. Gall unrhyw ganiatâd sydd ei angen gael ei ychwanegu at eich cerdyn presennol gan Asiant/Noddwr yr Awdurdod Cofrestru yn y practis.

Bydd staff practisiau meddygon teulu a fferyllfeydd Cymru yn gallu cael mynediad at swyddogaethau’r Gwasanaeth Rhagnodi Electronig o fewn eu systemau clinigol, yn ogystal â’r Traciwr Presgripsiwn, gan ddefnyddio eu cerdyn clyfar.

 

Sut i gael cerdyn clyfar

Bydd gan bob practis meddyg teulu sydd ag EPS byw neu sydd wedi'i amserlennu i fynd yn fyw o fewn 3 mis Asiant neu Noddwr yr Awdurdod Cofrestru a all gael cardiau clyfar ar gyfer staff practis ac ar gyfer locwm rheolaidd/wedi'i gynllunio.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae’n bosibl y bydd Asiant neu Noddwr yr Awdurdod Cofrestru mewn unrhyw bractis sydd ag EPS byw yn gallu ateb eich ymholiadau.  Mae gwybodaeth gyffredinol am gardiau clyfar ar gael yma hefyd: Defnyddwyr cardiau clyfar a dilyswyr - NHS Digital. Os yw eich ymholiad yn ymwneud â swyddogaethau cerdyn clyfar mewn systemau clinigol, cysylltwch â'ch cyflenwr system glinigol.

 

Cofnodi problemau

Os oes gennych broblemau gyda'ch cerdyn clyfar, cofnodwch alwad gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Bydd tîm yr Awdurdod Cofrestru yn cysylltu â chi i roi cymorth.   

 

At ddefnydd staff mewn practisiau meddyg teulu:

Desg Wasanaeth Leol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) 

Ffôn: 0333 200 8048  

(7.30am-8pm Llun-Gwener, 9am-1pm Sadwrn) 

E-bost: it.servicedesk@wales.nhs.uk

 

At ddefnydd staff mewn fferyllfeydd:

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)

Ffôn: 029 2090 4030

(8am-5pm Llun-Gwener)

E-bost: prescribing.management@wales.nhs.uk

 

Y Newyddion Diweddaraf