Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflenni Labeli a Chyflwyno

Woman filling out form

Mae gan WP34C 3 adran ar wahân. Sef:

  1. Rhan 1: Manylion y Contract ac Awdurdodi
  2. Rhan 2: Cyflwyno
  3. Rhan 3: Datganiad

Rhan 1: Manylion y Contract ac Awdurdodi

A wnewch chi’r canlynol:

  1. Cynnwys stamp y fferyllfa yn y man priodol
  2. Llofnodi a rhoi dyddiad ar y ffurflen WP34C

Rhan 2: Cyflwyno

1. Nifer y ffurflenni/eitemau ymhob grŵp fel y disgrifir isod.

  • Presgripsiynau pan nad yw costau’r claf wedi’u talu (gan gynnwys presgripsiynau sydd wedi eu rhoi ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny gyda cherdyn hawliau cyfradd Cymru), gan gynnwys ffurflenni sydd wedi cael eu hailgyflwyno.
  • Presgripsiynau pan dalwyd am gostau’r claf

Noder: Mewnosodwch gyfanswm y ffigurau ar gyfer yr holl bresgripsiynau a gyflwynwyd, gan gynnwys ffurflenni a gafodd eu hailgyflwyno.
(Dylid gadael unrhyw flychau na fyddwch yn eu defnyddio yn yr adran hon yn wag h.y. ni ddylid rhoi croes drwyddynt mewn unrhyw fodd)

  1. NID yw nifer y ffurflenni/eitemau ar gyfer presgripsiynau Cyffuriau Rheoledig Preifat yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau
  2. NID yw nifer y ffurflenni archebu cyffuriau rheoledig yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau
  3. Ffurflenni Awdurdodi Amlroddadwy wedi eu cyflwyno. (nodwch drwy dicio’r blwch – nid oes rhaid nodi nifer y ffurflenni a gyflwynwyd)

Rhan 3: Datganiad

Mae’r meysydd i’w cwblhau yma yn cynnwys:

  • Y mis y mae’r presgripsiynau yn berthnasol iddo
  • Rhif y cyfrif
  • NID yw cyfanswm oriau gwaith y staff presgripsiynu yn berthnasol i gontractwyr dyfeisiau

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r datganiad, plygwch y ffurflen WP34C yn chwarteri ar hyd y llinellau sydd wedi eu marcio ar y ddogfen ei hun, fel y gellir gweld enw/cyfeiriad y presgripsiynydd ar y brig. Yna, dylid gosod y datganiad hwn ar frig y ffurflenni a gaiff eu cyflwyno i’r Gwasanaethau Presgripsiynu.

Sylwch nad ydym bellach yn anfon copïau o'r WP34C bob mis ond gallwch lawrlwytho un o'r llyfrgell ddogfennau ar waelod y dudalen hon. Os cewch drafferthion yn lawrlwytho’r WP34C, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth ar 02920 904030 neu e-bostiwch prescribing.management@wales.nhs.uk.


Dogfennau Allweddol


doc icon

 

Ffurflen Ddatganiad WP34C (DOC,114kb)

 

doc icon

 

Hawliad y Cynllun Gwobrwyo Fferyllol (DOC,72kb)

 

Dogfennau


doc icon

 

Submission Labels - Gwent (601) (Doc,44kb)

 

doc icon

 

Submission Labels - Bro Taf (602) (Doc,44kb)

 

doc icon

 

Submission Labels - Dyfed Powys (603) (Doc,43kb)

 

doc icon

 

Submission Labels - North Wales (604) (Doc,43kb)

 

doc icon

 

Submission Labels - Morgannwg (605) (Doc,43kb)