Neidio i'r prif gynnwy

Atodlenni taliadau ar-lein (eSchedule)

Pharmacist setting up electronic prescription returns on laptop

Mae’r eSchedule yn eich galluogi i gadw golwg ar eich taliadau ar gyfer presgripsiynau a gwasanaethau contract a chomisiwn eraill ar ran y GIG trwy adnodd ar lein, sy’n defnyddio cysylltiad N3 GIG eich fferyllfa.

Mae’n eich galluogi i weld manylion eich ad-daliad (cost y cyffuriau, dyfeisiau ayyb sydd wedi eu cyflenwi trwy ffurflen presgripsiwn y GIG) a thâl cydnabyddiaeth (beth sy’n cael ei dalu yn rhan o’r contract presgripsiynu e.e. ffioedd proffesiynol ayyb).

Ynghyd â darparu data taliadau o’r safon uchaf, mae eSchedule yn eich galluogi i weld manylion fesul eitem ar gyfer cynhyrchion sydd â ffioedd penodol yn y Tariff Cyffuriau, fel meddyginiaethau didrwydded, hylif methadon geneuol, cyffuriau rheoledig, ffioedd presgripsiynau drud a mwy. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddiadau o eitemau mewn categorïau ad-dalu penodol, fel NCSO, Category M a Zero Discount. Lle bynnag y bo data ar lefel eitem ar gael, bydd eSchedule yn dangos delwedd electronig o’r ffurflen bresgripsiwn ar gyfer yr eitem benodol honno. 

Oes angen arnoch ddod o hyd i eitem benodol yn eich cyfrif? Mae eSchedule yn eich galluogi i ddod o hyd i eitemau trwy chwilio yn ôl enw’r cynnyrch a bresgripsiynwyd.

Defnyddwyr cofrestredig - Mewngofnodwch yma (y rhai sydd â chysylltiad N3 yn unig)

Heb gofrestru? I gofrestru i gael mynediad, cwblhewch y ffurflen isod ar gyfer gofyn am fynediad a’i hanfon mewn e-bost at prescribing.management@wales.nhs.uk, neu anfonwch hi yn y post gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y ffurflen.

Am gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Gofal Sylfaenol trwy ffonio 029 2090 4030.

 

Dolenni cyflym (Y rhai sydd â chysylltiad N3 yn unig)


 

Dogfennau


doc icon
 

eSchedule - Ffurflen ar gyfer Gofyn am Fynediad

 

pdf icon
 

eSchedule - Ffurflen ar gyfer Gofyn am Fynediad (PDF)

 

pdf icon
 

Canllaw Defnyddiwr eSchedule