Neidio i'r prif gynnwy

Y Gronfa Ddata Fferyllol i Gymru Gyfan

All Wales Pharmacy Database

Cafodd y Gronfa Ddata Fferyllol i Gymru Gyfan ei datblygu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn cydweithrediad â chontractwyr fferyllol ledled Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Galw Iechyd Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r gronfa yn ffynhonnell ddibynadwy o ddata ynghylch fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau maent yn eu darparu. Mae’n cael ei defnyddio i wneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth i Fyrddau Iechyd fel bod modd iddynt fapio gwasanaethau fferylliaeth a sicrhau bod yr un gwasanaethau iechyd ar gael i bawb ni waeth ble mae’n byw.
  • ategu systemau hawlio electronig ar gyfer fferyllfeydd cymunedol
  • darparu gwybodaeth gywir a chyson ynghylch gwasanaethau fferylliaeth gymunedol i’r cyhoedd trwy ddolenni i Galw Iechyd Cymru
  • galluogi fferyllfeydd cymunedol i adolygu gwybodaeth am eu gwasanaethau

Dim ond staff y Byrddau Iechyd a fferyllfeydd cymunedol sydd â mynediad uniongyrchol i’r gronfa ddata. I gael yr hawl i’w gweld, cysylltwch â nis - nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

Dylai fferyllfeydd cymunedol anfon unrhyw ddiwygiadau i’w gwybodaeth trwy e-bost at nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk

Gall defnyddwyr cofrestredig fewngofnodi i’r system gan ddilyn y dolenni canlynol: -

Noder y caiff data eu trosglwyddo i’r fersiwn sydd ar y we bob hyn a hyn, ac ni fydd y wybodaeth o reidrwydd yn adlewyrchu newidiadau diweddar. Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ddata

 

Mae Presgripsiwn Newydd: A New Prescription yn darparu manylion gwasanaethau a gyfarwyddir yn genedlaethol o fewn fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol. Y Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol (CCPS) a’r Gwasanaeth Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr (PIPS) yw’r gwasanaethau allweddol a gyfarwyddir yn genedlaethol ac mae’r dogfennau gofynnol ar gyfer contractwyr ar gael yma.