Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn cwblhau’r ffurflen gais hon:
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yng ngham dau y broses.
Hysbysiad Diogelu Data
Mae deddfwriaeth i ddiogelu data yn diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei darparu ar y Ffurflen Gais hon. Mae Cytundeb Cyfrinachedd, hyfforddiant cynhwysfawr a phrotocolau Llywodraethu Gwybodaeth penodol yn berthnasol i bob aelod o staff a fydd yn prosesu’ch gwybodaeth. Caiff y broses hon ei chwblhau mewn modd teg a chyfreithlon, a dim ond staff y mae angen iddynt weld eich gwybodaeth at ddibenion cyfreithlon a fydd yn ei gweld. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei defnyddio at y dibenion y mae angen ei defnyddio, a bydd y dibenion hyn yn cyd-fynd â’ch disgwyliadau.
Ni fyddwn yn rhoi’ch manylion personol i unrhyw sefydliad arall yn fwriadol at unrhyw ddibenion heb gael eich caniatâd diamwys, oni bai bod rheswm cyfiawn a chyfreithlon dros wneud hynny. Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am hyn cyn gynted â phosibl.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am gyfrinachedd yr wybodaeth a ddarparoch chi, cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy ffonio 02920 902272, neu drwy e-bostio nwsspinformationgovernance@wales.nhs.uk neu gallwch ymweld â https://nwssp.nhs.wales/about-us/information-governance/
Mae’r ffurflenni canlynol ar gael i’w lawrlwytho:
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau priodol cyn cwblhau’r ffurflenni cais AWP1, AWP2, AWP3 a AWP4:
Canllawiau ar gyfer Ceisiadau i ymuno â’r Rhestr Fferyllol.