Neidio i'r prif gynnwy

Am Wasanathau Ystadau Arbenigol

Rydym yn sefydliad ar draws y GIG yng Nghymru sy'n hyrwyddo a hwyluso cyflawniad safonau uchel yn yr amgylchedd adeiledig a rheoli cyfleusterau mewn gofal iechyd yng Nghymru. Mae'r amgylchedd adeiledig yn chware rôl allweddol mewn gofal cleifion, profiad cleifion ac ansawdd gwasanaethau anghlinigol yn y GIG sy'n allweddol i gyflawniad gofal iechyd o ansawdd.
 
Rydym yn cyflogi cyfuniad o staff proffesiynol a thechnegol i ddarparu cyngor ar arfer gorau a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru a sefydliadau GIG Cymru.
 
Gan ddechrau ein hoes yn 1947 yn rhan o Fwrdd Ysbytai Cymru, fe'n sefydlwyd fel Gwasanaethau Ystadau Arbenigol yn 2014 ac rydym yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Felindre a'r Bartneriaeth Cydwasanaethau.
 
Ein datganiad cenhadaeth yw: “Hyrwyddo amgylcheddau gofal iechyd modern, cynaliadwy, diogel ac effeithlon i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a chymunedau rhanddeiliaid ehangach drwy gymhwyso ein gwybodaeth a'n sgiliau proffesiynol sy'n ymwneud ag ystadau a chyfleusterau”.
 
 

Dod o hyd i ni


Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Ystadau Arbenigol
3ydd Llawr
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UB
 
I ddefnyddwyr llywio lloeren: CF14 3UZ
Rhif ffôn: 029 2090 4086
WHTN: 01796 4086