Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaethau

Gweler rhestr o'r gwasanaethau a ddarparwn isod:

NHS Building for Wales Frameworks

pdf icon
 

Llyfryn Gwasanaethau Ystadau Arbenigol

 

Fframweithiau Adeiladu ar gyfer Cymru y GIG

Mae Fframweithiau Adeiladu ar gyfer Cymru y GIG yn disodli fframweithiau Cynllun am Oes yn 2017. Nod hyn yw bwrw ymlaen â’r gwaith o wella proses gyflenwi adeiladu trwy ddylunio, datblygu, caffael a rheoli fframweithiau caffael adeiladu ar gyfer GIG Cymru, gan weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau er mwyn darparu cyfleusterau iechyd o ansawdd uchel.
 

Engineering

Peirianneg

Mae’r adran hon yn darparu gwasanaethau Peiriannydd Awdurdodi ar gyfer nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys dadhalogi, foltedd uchel, foltedd isel, dŵr, awyru a nwyon meddygol, a hynny i bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth. Darperir gwasanaethau dilysu peirianyddol arbenigol hefyd ar gyfer awyru theatrau llawfeddygol, unedau therapi dwys ac unedau sterileiddio a dadhalogi ysbytai.
 
  • Peirianwyr Awdurdodi
  • Gwasanaethau Dilysu
  • Gwasanaethau Dadhalogi

Strategic Estate Advice

Datblygu Ystadau

Rydym yn darparu gwasanaethau i Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner ym maes iechyd, gan gynnwys cyngor ar ddatblygu strategol. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau arbenigol ym meysydd: diogelwch tan, delweddu a therapiau diagnostig, rheoli cyfleusterau, rheolaeth amgylcheddol a meincnodi gwariant refeniw.
 
Property

Eiddo

Mae’r adran eiddo yn darparu cyngor a chymorth i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch pob agwedd ar dir ac eiddo. Mae hyn yn cynnwys: caffaeliadau a gwarediadau, prydlesi a rheoli eiddo, ystadau gofal sylfaenol, ailasesiadau o renti Meddygon Teulu gofal sylfaenol, datblygu safleoedd gofal sylfaenol, cynnal a chadw cronfa ddata ePIMS, rheoli tirlyfr Portffolio Tir ac Eiddo, ynghyd â chynnal swyddfa luniadu.
 
Business Management Team

Rheoli Busnes

Mae’r adran hon yn darparu gwasanaeth cymorth technegol cynhwysfawr, sy’n delio â phob agwedd ar ystadau a chyfleusterau GIG Cymru, yn ogystal â chynnal a rheoli gwefan Gwasanaethau Ystadau Arbenigol. Mae’r adran hon hefyd yn darparu cymorth gweinyddol i staff proffesiynol a thechnegol Gwasanaethau Ystadau Arbenigol.