Neidio i'r prif gynnwy

Simon Russell

Dirprwy Gyfarwyddwr

BEng (Anrh) CEng MIET

 

Mae gan Simon dros 34 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol ac un ddisgyblaeth fel Peiriannydd Siartredig mewn Prosiectau Dylunio ac Adeiladu ers iddo raddio o Brifysgol Caerdydd.

Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Ystadau Arbenigol (SES) Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mae'n gyfrifol am reoli'r adrannau Ystadau Arbenigol sy'n wynebu'r GIG gan gynnwys Eiddo; Datblygu Ystadau; Peirianneg ac Adeiladu ar gyfer Cymru.

Mae Simon yn arwain datblygu cynlluniau seilwaith strategol ar draws GIG Cymru i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau gwasanaethau sefydliadau’r GIG ac ymgysylltu ar sail genedlaethol â sawl rhanddeiliad yn Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r GIG ar draws y pedair gwlad.

Roedd Simon yn Bennaeth Peirianneg SES o fis Gorffennaf 2019 - Chwefror 2023 cyn cymryd yr awenau fel dirprwy gyfarwyddwr.