Sefydlwyd Dysgu Digidol Cymru yn 2014 gyda'r nod o safoni a datblygu e-ddysgu â sicrwydd ansawdd, 'Unwaith i GIG Cymru'. Yn dilyn llwyddiant y gwaith hwn, mae'r rhaglen waith yn parhau i dyfu ar draws ystod amrywiol o bynciau, sydd hefyd yn hygyrch i Sector Cyhoeddus Cymru. O 2019, ariennir y tîm yn barhaol gan Lywodraeth Cymru i barhau â'r gwaith hwn. Mae Dysgu Digidol Cymru ar hyn o bryd yn rheoli'r platfformau e-ddysgu, yn datblygu cyrsiau ac yn cefnogi tua 300,000 o ddefnyddwyr.
Mae ystod eang o gyrsiau am ddim ar gael i gefnogi staff, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.
Sylwch: Bydd angen i chi mewngofnodi neu greu cyfrif Dysgu@Cymru cyn cofrestru ar y cwrs.