Mae rheoli risg yn cynnwys camau a ddiffiniwyd sy'n ein helpu i ddeall risgiau a'u heffaith. Mae ymwybyddiaeth o reoli risg yn dda ac arfer hynny ar bob lefel yn ffactor allweddol o ran llwyddiant unrhyw sefydliad ac mae angen ei weld fel rhan annatod o arferion rheoli effeithiol. Cydnabyddir bod risg yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ac felly bod angen ei reoli'n barhaus mewn ffordd drefnus a chyson ym mhob maes: cleifion, staff, iechyd a diogelwch, amgylcheddol, sefydliadol, ariannol a masnachol.
Gellir rhoi'r broses reoli risg ar waith mewn unrhyw sefyllfa lle gallai canlyniad annymunol neu annisgwyl fod yn arwyddocaol neu lle gwelir cyfleoedd.
Y Broses Reoli Risg
Pennu'r cyd-destun | Pennu'r cyd-destun strategol a threfniadol a'r cyd-destun rheoli risg y bydd gweddill y broses yn digwydd ynddo. Dylai'r meini prawf y bydd risg yn cael ei fesur yn eu herbyn gael eu pennu a dylid diffinio strwythur y dadansoddiad. |
Adnabod risgiau | Nodi beth, pam a sut y gall pethau godi fel sail ar gyfer dadansoddi pellach. |
Dadansoddi risgiau | Pennu'r rheolyddion presennol a dadansoddi risgiau o ran canlyniadau a thebygolrwydd yng nghyd-destun y rheolyddion hynny. Dylai'r dadansoddiad ystyried amrediad y canlyniadau posibl a pha mor debygol yw'r canlyniadau hynny o ddigwydd. Gellir cyfuno canlyniadau a thebygolrwydd i amcangyfrif lefel y risg. |
Gwerthuso risgiau | Cymharu'r amcangyfrif o lefelau risg yn erbyn y meini prawf a bennwyd eisoes. Fel hynny, gellir gosod risgiau mewn trefn er mwyn dynodi blaenoriaethau rheoli. Os yw'r lefelau risg a bennir yn isel, efallai y daw'r risgiau o fewn dosbarth derbyniol ac na fydd angen eu trin. |
Trin risgiau | Derbyn a monitro risgiau â blaenoriaeth isel iddynt. Ar gyfer risgiau eraill, datblygu a gweithredu cynllun rheoli penodol sy'n cynnwys ystyried cyllid. |
Monitro ac adolygu | Monitro ac adolygu perfformiad y drefn reoli risgiau a newidiadau a allai effeithio arni. |
Cyfathrebu ac ymgynghori | Cyfathrebu ac ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel sy'n briodol ym mhob cam o'r broses reoli risgiau ac ynglyn â'r broses gyfan. |
Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) weithio'n barhaus i reoli risg o niwed i bobl, i wasanaethau ac i'r sefydliad ei hun ac i leihau'r risgiau i lefel dderbyniol a rhwystro digwyddiadau rhag digwydd eto lle bynnag y bo modd. Mae angen i raglen reoli risgiau gynhwysfawr ategu rheoli risg trwy gyfrwng dull cydgysylltiedig, integredig a threfnus. Yn ei fframwaith Gweithio i Wella mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn nodi pwysigrwydd trefn integredig o reoli risg fel bod risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol.
Diwylliant Rheoli Risg
Bydd arferion rheoli risg da yn dod â chryn fudd os bydd pawb trwy'r holl sefydliad yn teimlo'n gyfrifol am reoli risgiau. Dyma lle mae hyrwyddo diwylliant o fod yn agored o fewn amgylchedd dysgu yn hollbwysig. Rhaid hyfforddi, annog a helpu staff trwy arweinyddiaeth gref i fynd ati'n benodol i adnabod a riportio risgiau a "damweiniau a fu bron â digwydd" ac i gymryd camau priodol i ddatrys problemau yn y fan a'r lle, lle bynnag y bo modd. I'r perwyl hwn, ni ddylid ystyried y System Adrodd am Ddigwyddiadau yn rhan o'r broses ddisgyblu.
Systemau Rheoli Risg
Bydd mabwysiadu'r egwyddorion hyn a rhaglenni Ansawdd a Llywodraethu Clinigol cysylltiedig yn cyfrannu at well effeithiolrwydd a gwasanaethau i gleifion ac at leihau'r adnoddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Dolenni defnyddiol: