Neidio i'r prif gynnwy

Darparu Gwasanaethau yn y Gymraeg

I lawer o deuluoedd mae gofal o ansawdd uchel yn golygu gallu cael gwasanaeth gofal iechyd drwy gyfrwng Cymraeg oherwydd:

  • eu bod yn teimlo’n fwy cyffyrddus yn mynegi pryderon yn eu hiaith gyntaf;
  • mae’n ganolog i gael eich trin â pharch ac urddas;
  • i rai, mae hefyd yn fater o angen clinigol, oherwydd gallai effeithio ar yr asesiad, y driniaeth, diogelwch a’r canlyniad. 

Dyna pam mae darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wrth wraidd yr ymdrechion i hybu gwasanaethau yn y GIG yng Nghymru sydd o ansawdd uchel ac yn ddiogel.

Mae llawer o bobl yn teimlo’n fregus wrth ddefnyddio’r GIG ac yn teimlo’n ddihyder yn gofyn am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna pam mai’r darparwyr ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau bod pobl yn cael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, nid y cleifion a’u teuluoedd.

Mae’n rhaid rhoi’r mater o ddewis/anghenion iaith wrth galon llwybr strategol y claf trwy’r system iechyd. Mae Mwy na Geiriau yn fframwaith strategol sydd yn anelu at wella profiadau defnyddwyr o ofal drwy gynyddu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnydd anffurfiol o’r Gymraeg gan staff y rheng flaen wrth gefnogi a gofalu am bobl.

Mae’n bwysig bod pobl sy’n gweithio ym maes iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn cydnabod mai dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl fynegi eu hanghenion gofal yn effeithiol. I lawer o siaradwyr Cymraeg, rhaid gweld bod defnyddio eu hiaith gyntaf yn rhan greiddiol o ofal, a ddim yn ychwanegyn dewisol.