Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Risg

 

Mae rheoli risg yn cynnwys camau a ddiffiniwyd sy'n ein helpu i ddeall risgiau a'u heffaith. Mae ymwybyddiaeth o reoli risg yn dda ac arfer hynny ar bob lefel yn ffactor allweddol o ran llwyddiant unrhyw sefydliad ac mae angen ei weld fel rhan annatod o arferion rheoli effeithiol. Cydnabyddir bod risg yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ac felly bod angen ei reoli'n barhaus mewn ffordd drefnus a chyson ym mhob maes: cleifion, staff, iechyd a diogelwch, amgylcheddol, sefydliadol, ariannol a masnachol.

Gellir rhoi'r broses reoli risg ar waith mewn unrhyw sefyllfa lle gallai canlyniad annymunol neu annisgwyl fod yn arwyddocaol neu lle gwelir cyfleoedd.

 

Y Broses Reoli Risg

Un drefn reoli risg a ddefnyddir yn aml yw'r Canllaw AS/NZ y gellir cael ato trwy gyfrwng y ddolen gyswllt â'r dudalen hon. Nid yw'r adnawdd hwn, fodd bynnag, ar gael am ddim. Yn y canllaw hwn, cydnabyddir mai prif elfennau'r broses reoli risg yw: 
 
Pennu'r cyd-destun Pennu'r cyd-destun strategol a threfniadol a'r cyd-destun rheoli risg y bydd gweddill y broses yn digwydd ynddo. Dylai'r meini prawf y bydd risg yn cael ei fesur yn eu herbyn gael eu pennu a dylid diffinio strwythur y dadansoddiad.
Adnabod risgiau Nodi beth, pam a sut y gall pethau godi fel sail ar gyfer dadansoddi pellach.
Dadansoddi risgiau Pennu'r rheolyddion presennol a dadansoddi risgiau o ran canlyniadau a thebygolrwydd yng nghyd-destun y rheolyddion hynny. Dylai'r dadansoddiad ystyried amrediad y canlyniadau posibl a pha mor debygol yw'r canlyniadau hynny o ddigwydd. Gellir cyfuno canlyniadau a thebygolrwydd i amcangyfrif lefel y risg.
Gwerthuso risgiau Cymharu'r amcangyfrif o lefelau risg yn erbyn y meini prawf a bennwyd eisoes. Fel hynny, gellir gosod risgiau mewn trefn er mwyn dynodi blaenoriaethau rheoli. Os yw'r lefelau risg a bennir yn isel, efallai y daw'r risgiau o fewn dosbarth derbyniol ac na fydd angen eu trin.
Trin risgiau Derbyn a monitro risgiau â blaenoriaeth isel iddynt. Ar gyfer risgiau eraill, datblygu a gweithredu cynllun rheoli penodol sy'n cynnwys ystyried cyllid.
Monitro ac adolygu Monitro ac adolygu perfformiad y drefn reoli risgiau a newidiadau a allai effeithio arni.
Cyfathrebu ac ymgynghori Cyfathrebu ac ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel sy'n briodol ym mhob cam o'r broses reoli risgiau ac ynglyn â'r broses gyfan.

Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) weithio'n barhaus i reoli risg o niwed i bobl, i wasanaethau ac i'r sefydliad ei hun ac i leihau'r risgiau i lefel dderbyniol a rhwystro digwyddiadau rhag digwydd eto lle bynnag y bo modd. Mae angen i raglen reoli risgiau gynhwysfawr ategu rheoli risg trwy gyfrwng dull cydgysylltiedig, integredig a threfnus. Yn ei fframwaith Gweithio i Wella mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn nodi pwysigrwydd trefn integredig o reoli risg fel bod risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol.

 
Diwylliant Rheoli Risg

Bydd arferion rheoli risg da yn dod â chryn fudd os bydd pawb trwy'r holl sefydliad yn teimlo'n gyfrifol am reoli risgiau. Dyma lle mae hyrwyddo diwylliant o fod yn agored o fewn amgylchedd dysgu yn hollbwysig. Rhaid hyfforddi, annog a helpu staff trwy arweinyddiaeth gref i fynd ati'n benodol i adnabod a riportio risgiau a "damweiniau a fu bron â digwydd" ac i gymryd camau priodol i ddatrys problemau yn y fan a'r lle, lle bynnag y bo modd. I'r perwyl hwn, ni ddylid ystyried y System Adrodd am Ddigwyddiadau yn rhan o'r broses ddisgyblu.

 
Systemau Rheoli Risg

  • Adrodd am ddigwyddiadau ac ymchwilio i honiadau, cwynion a digwyddiadau - yr adroddiadau a gynhyrchir yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu a bod camau gweithredu ar waith i ddiogelu ac i rwystro'r digwyddiadau hyn rhag ailddigwydd hyd y bo modd.
  • Asesu Risg - gellir cynhyrchu asesiadau'n rhagweithiol neu'n adweithiol a rhaid iddynt gynnwys risgiau o ran cleifion, staff, iechyd a diogelwch, a rhai amgylcheddol, trefniadol, ariannol a masnachol.
  • Proffilio Risgiau a Chofrestri o Risgiau - proffil cynhwysfawr o'r prif feysydd risg ledled y sefydliad, wedi'i flaenoriaethu a'i reoli gan lefelau priodol o'r sefydliad a'i fonitro o ran cynnydd yn erbyn camau gweithredu ar lefelau allweddol.
  • Trefn garlam ar gyfer digwyddiadau allweddol - i'w cyflwyno i sylw'r Bwrdd ac asiantaethau allanol fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a'r Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA).
  • Casgliad o strategaethau, polisïau, gweithdrefnau a systemau - i reoli'r risgiau a fyddai'n codi fel arall a sicrhau y caiff gofal a gwasanaethau eu darparu gan staff cymwys sy'n gwybod sut i gyfleu pryderon.

Bydd mabwysiadu'r egwyddorion hyn a rhaglenni Ansawdd a Llywodraethu Clinigol cysylltiedig yn cyfrannu at well effeithiolrwydd a gwasanaethau i gleifion ac at leihau'r adnoddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

 
Dolenni defnyddiol: